Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/412

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Lanbrynmair, ac aelod o'i eglwys ef yno, ac hefyd yn gâr naturiol iddo, ac â meddyliau uchel am ei alluoedd, yr oedd yr awdwr yn teimlo hoffder neillduol tu ag ato a gofal annghyffredin am dano. Ond, at bwy bynnag y cyfeiriwyd hwynt, yr ydym yn teimlo yn sicr eu bod yn llythyrau gwirioneddol, hyny yw, eu bod wedi eu hanfon, megis ag y maent yn argraffedig, at ryw gyfaill ieuanc, cyn eu dwyn allan trwy y wasg, tra, ar yr un pryd, y mae yn debygol fod bwriad wrth eu Cyfansoddi i'w hargraffu ar ol hyny. Mae y "Cynnygiad Gostyngedig" hwn, yn mhob modd, yn cyfateb i'w enw. awdwr ynddo, yn y dull mwyaf syml a dirodres, yn ymgais at ateb rhyw nifer o ofyniadau cysylltiedig â'r pwnc dan ei sylw, a gyfeiriasid ato gan y "Cyfaill ieuanc" a annerchir ganddo. Y gofyniad cyntaf y sylwa arno yw,—"A oedd rhyw ddybenion i ddyoddefaint Iesu Grist, heblaw iechydwriaeth yr etholedigion?"

Yn Atebiad i'r gofyniad hwn, y mae yn golygu, "fod yr Ysgrythyrau yn ein dysgu, fod bendithion" (tymhorol) "yn cael eu cyfranu i bechaduriaid yn gyffredinol trwy ddyoddefaint Iesu Grist" (tu dal. 3); mai "yn unig gyda golwg ar farwolaeth Iesu Grist, mae Duw yn gwneuthur cynnygiad didwyll o iechydwriaeth dragywyddol i bechaduriaid, yn gyffredinol, yn yr efengyl" (tu dal. 4, 5); "fod yr un berthynas rhwng gwaed Iesu Grist a phechaduriaid yn gyffredinol, ag sydd rhwng galwad yr efengyl a phechaduriaid yn gyffredinol" (tu dal. 6); ac heb hyn nad oes un "priodoldeb " mewn "dywedyd, fod pechaduriaid yn gwrthod Crist a'i iechydwriaeth" (tu dal. 7). Y gofyniad nesaf sydd yn dyfod dan ei sylw yw," A fu Iesu Grist ddim farw dros yr etholedigion yn fwy neillduol na thros ereill?" Yn Atebiad i'r gofyniad hwn, y mae yn sylwi, fod yr Ysgrythyrau Santaidd yn ein dysgu yn eglur iawn y bydd cynnifer o bechaduriaid ag a gedwir i fywyd tragywyddol, yn cael eu cadw yn ol etholedigaeth gras; ""fod perthynas neillduol rhwng y cwbl o gyfryngwriaeth Iesu Grist a'i etholedigion" (tu dal. 8); eu bod "yn perthyn i Grist, yn yr un ystyriaeth ag y mae holl ddynolryw yn perthyn i Adda "; eu bod yn cael eu hystyried fel eglwys a phriodasferch Iesu"; ac "nad oes le i ammeu nad oedd Iesu Grist, wrth ddyoddef, yn edrych ar yr etholedigion, fel rhan neillduol o wobr ei lafur" (tu dal. 9). Yr un pryd, na ddylid "rhanu gwerth dyoddefaint Iesu Grist "—mai "yr un dyoddefaint gwerthfawr yw sail yr holl fendithion o bob rhyw mewn amser a