thragywyddoldeb, ag y mae Duw yn gweled fod yn dda i gyfranu i ddynion" (tu dal. 9, 10). Hyd yma y mae yn myned yn ei Lythyr Cyntaf.
Yn yr Ail Lythyr, y mae yn ymgais i ateb rhai gwrthddadleuon a ddygasid yn mlaen gan ei "gyfaill ieuanc," yn erbyn yr hyn a ddysgasid ganddo yn y Llythyr cyntaf. Yr wrthddadl gyntaf ydyw—" Od oes perthynas rhwng gwaed Iesu Grist a phawb sydd yn clywed yr efengyl, oni thywalltodd ei waed yn ofer gyda golwg ar y rhai sydd yn annghredu?" Mae yn cyfarfod yr wrthddadl hon, trwy ymwrthod yn hollol â'r dybiaeth, "i'r Cyfryngwr mawr dywallt ei waed yn ofer mewn un ystyriaeth;" y mae yn honi, fod "yn ogoniant neillduol i Iesu Grist fod ei aberth, a'i waed, yn cael eu cyfrif o'r fath werth, a Duw wedi cael y fath foddlonrwydd ynddynt, fel ag y mae edifeirwch, a maddeuant pechodau, yn cael eu pregethu yn ei enw ef, yn mhlith yr holl genedloedd;" y "bydd Iesu yn cael ei ogoneddu yn y gosp gyfiawn a ddisgyn ar esgeuluswyr iechydwriaeth;" a bod holl ddeiliaid yr ymerodraeth ddwyfol sydd mor eang, "yn cael eu llywodraethu trwy waed a chyfryngdod Iesu Grist" (tu dal. 11, 12). Yr ail wrthddadl y sylwa arni yw," Pa fodd mae cynnygiad o iechydwriaeth trwy waed Crist, yn fendith i'r rhai sydd yn ei wrthod, yn gymmaint ag y bydd eu trueni yn fwy na phe buasent heb gael y cynnygiad?" Y mae yn ateb yr wrthddadl hon, trwy sylwi mai "yr un peth fyddai gofyn, Pa fodd mae iechyd da, cynneddfau cryfion, cyfeillion dymunol, meddiannau helaeth, &c., yn fendithion i'r cyfryw sy'n eu camddefnyddio;" "nad ydym i farnu gwerth bendithion wrth y modd y caffont eu hiawnddefnyddio neu eu camddefnyddio;" "nad oes neb yn ammeu, nad bendith werthfawr yw y gair santaidd," ac eto ei bod yn "fendith sydd yn cael ei chamddefnyddio gan filoedd;" ac mai "dyben Duw, fel daionus lywodraethwr ei greaduriaid rhesymol, yn gwneuthur cynnygiad grasol o iechydwriaeth dragywyddol, trwy'r gwaed, i bawb, yn gyffredinol, ydyw i bawb i gredu a bod yn gadwedig" (tu dal. 13). Mae hyn yn ei arwain i wneuthur gwahaniaeth rhwng "ewyllys naturiol, hanfodol Duw," a'i "ewyllys benarglwyddiaethol;" y naill yn golygu ei greaduriaid fel deiliaid ei lywodraeth, ac felly i gael ymddwyn tuag atynt bob amser mewn cyfiawnder; a'r llall yn eu hystyried fel gwrthddrychau annheilwng, ac felly pob daioni a weinydder iddynt, tu allan i gylch cyfiawnder pur, yn tarddu yn unig o ras. Mae, yn niwedd y Llythyr,