yn cyfarfod y gofyniad,—" Pa fodd mae dybenion cyffredinol, a dybenion neillduol marwolaeth Iesu Grist, yn gyson â'u gilydd?" Mae yn cyfaddef yr "anhawsder i gysoni y dybenion hyn â'u gilydd"; ac eto yn methu gweled fod mwy o annghysondeb rhyngddynt, yn eu cysylltiad â marwolaeth Crist, nag yn eu cysylltiad â gweinidogaeth yr efengyl; a pha annghysondeb bynnag a allai ymddangos rhyngddynt, os ydyw y gair yn dysgu y naill a'r llall, y rhaid eu bod yn gyson â'u gilydd, pa un bynnag a allwn ni weled eu cysondeb ai peidio. (tu dal. 16.) Mae yn terfynu yn yr ysbryd a'r teimlad mwyaf efengylaidd ac addolgar:—"At y'gair aç at y dystiolaeth. Gochelwch ymhyfrydu mewn dadleuaeth ac yn benaf, gochelwch ddadleu yn ysgafn, ac yn rhy fygus, am waed yr Emmanuel. Pan fyddom yn myned i feddwl, neu ymddiddan am hyn, gweddai fod cryndod santaidd yn ein meddiannu, rhag i ni ddywedyd neu feddwl yn anaddas. Sier yw, ei fod yn cynnwys dyfnderoedd anchwiliadwy! O! o'r fath ganlyniad tragywyddoł fydd angeu'r groes i bob dyn sydd yn byw yn ngwlad efengyl! Caffir [caffer] chwi a minnau, fy anwyl gyfaill, wedi ein golchi yn y gwaed, oddiwrth ein holl bechodau; ac wedi'n, ein gwaith hyfryd fydd canu am ei rinwedd, gyda'r holl dyrfa waredigol, tra parhao tragywyddoldeb. Amen" (tu dal. 17). Mae yn ychwanegu ychydig Sylw—nodau ar y diwedd; un o'r rhai sydd ar yr Ewyllys Ddwyfol, wedi ei ysgrifenu, er nad yw ei enw wrtho yma, gan Mr. James Griffiths, Tŷ Ddewi.
Yr ydym wedi rhoddi golygiad lled helaeth a manwl ar gynnwysiad y llyfryn dan ein sylw, er mwyn galluogi ein darllenwyr i ffurfio barn. deg drostynt eu hunain, am y tir neillduol a gymmerid gan Mr. Roberts, ar y testyn pwysig yr ymdrina âg ef ynddo, pan y cyhoeddodd gyntaf y syniadau hyny a barasant, mewn blynyddoedd canlynol, y fath gynhwrf yn Nghymru. Mae yn hawdd, dybygem, iddynt ganfod, oddiwrth y crynodeb a gyflwynwyd genym ger eu bron, nad oes dim eithafol iawn yn athrawiaeth, nac yn nhôn y llyfr; ac y mae drwyddo, hyd ag y gallwn ni weled, wedi ei ysgrifenu yn y modd mwyaf cymhedrol, ac yn arddangos yr ysbryd mwyaf heddychlawn a boneddigaidd. Ond nid mewn ysbryd felly y derbyniwyd ef gan liaws yn y wlad. Ac, megis yr ydym eisoes wedi datgan ein syndod na buasai y syniadau cyfyng a dieithrol ac anysgrythyrol, a gyhoeddasid gan Mr. Christmas Evans, wedi cynhyrfu rhyw rai yn llawer cynt, i ysgrifenu a dadleu yn eu herbyn, felly, y mae yn ymddangos i ni braidd yn hynod,