Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyw am dymor yn hen gartref y teulu yn Gronant. Yr ail, Sarah, yr hon a fu farw yn Steuben; Thomas, yr hwn a fu yn ysgolfeistr a lliwiedydd, a fu farw yn Remsen, N. Y.; Lewis, yr hwn a fu am flynyddau yn weinidog parchus a llafurus mewn amryw eglwysi, megys Llangwyfan, Llanrwst, Trefriw, Nant-y-rhiw a Dyserth, ac a fu farw Ebrill 21, 1863, yn 65 oed; Elizabeth Hughes, New York Mills, ger Utica, N. Y.; Jane Davies, Newmarket, Sir Fflint. Bu farw rhai o honynt yn ieuainc.

Ymddengys i Robert Everett ymuno â chrefydd yn eglwys Annibynol Newmarket, yn 1808, pan tua 17 Y gweinidog yno yn yr amser hwnw oedd y Parch. T. Jones, genedigol o Ben-y-bont, plwyf Llanedi, Sir Gaerfyrddin; yr hwn a fu yn gweinidogaethu yno am un-flynedd-ar-ddeg-a-deugain. Dywedai y Parch. D. Morgan, Llanfyllin, am dano yn Hanes Ymneillduaeth : "Yr oedd yn weinidog syml, doeth, a synwyrlawn—yn efengylaidd ei egwyddorion, a difrycheulyd ei ymddygiadau, yr hyn bethau a enillodd iddo barch mawr, dylanwad cryf, a chymeradwyaeth gwresog, gyda ei gyfeillion a'i gydnabyddion. Astudiai ei bregethau yn dda, a byddent yn llawn o efengyl." Dan fugeiliaeth y gwr diwyd a ffyddlawn yna y cychwynodd Robert Everett ei yrfa grefyddol. Canfyddwyd yn fuan fod ynddo alluoedd a chymwysderau at waith y weinidogaeth, ac anogwyd ef i bregethu; a dechreuodd ar y gwaith tua'r Nadolig, 1809. Y testyn cyntaf y pregethodd arno oedd Heb. 2:11, "Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr." Traddodwyd hono mewn