Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid ydym hyd yn hyn wedi dod o hyd i lawer o fanylion y daith hon, ond deallwn iddo fod yn llafurus a defnyddiol dros ddirwest yno. Bu y gymdeithas hono yn llewyrchus a llwyddianus iawn yn Ngogledd Cymru yn y flwyddyn 1837, ond nis gwyddom fainto'r llwyddiant sydd i'w briodoli i Dr. Everett, ond gwyddom ei fod mor selog a neb gyda'r gwaith, ac iddo ffurfio cymdeithas ar fwrdd y llong wrth ddychwelyd, a darbwyllo chwech-ar-hugain o'i gyd-genedl i arwyddo yr ardystiad. Dywed J. R.: "Pan dalodd Mr. Everett ymweliad â Chymru, wedi bod flynyddau yn America, yr oedd wedi colli llawer o'i lais peraidd, a'i nerth pregethwrol. Nid oes gan y rhai a'i clywodd y pryd hyny fawr ddychymyg beth ydoedd yn wr ieuane yn Ninbych cyn cychwyn i America; ïe, beth oedd ar faes Cymanfa Llanbrynmair." Fe allai ei fod wedi colli peth o'i nerth a'i danbeidrwydd boreuol; ond y peth tebycaf yw fod ei arosiad yn y wlad hon, ei gymdeithas â'r Americaniaid, a'i waith yn gweinidogaethu iddynt er ys blynyddau, wedi effeithio yn raddol, os nad yn ddiarwybod arno, nes newid ei arddull bregethwrol; a dichon fod hinsawdd eithafol y wlad wedi bod yn help i hyny gydag ef, yr un fath ag eraill o'i frodyr. Nid oedd yr arddull a atebai i gynulleidfa Americanaidd, oll yn ddarllenwyr deallus, ac yn feddianol ar gryn wrteithiad, yn cyfateb cystal i gynulleidfaoedd llai eu diwylliad yn Nghymru. Y mae'n deilwng o sylw mai ar ol bod yn Nghymru y cynyrchodd pregethau Dr. Everett fwyaf o effeithiau yn mhlith Cynry y wlad hon, tuag amser diwygiadau 1838, 1840, 1843, &c. Felly yr ydym yn gogwyddo i feddwl. ei fod yn fwy adeiladol, sylweddol a chynwysfawr fel