Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(ond yn ol ein barn ni, tyb anghywir,) pobl Cymru am Dr. Everett yn 1837.

I ddychwelyd at hanes y Dr. ar ol dyfod yn ol o Gymru i'w eglwys yn Westernville, N. Y.—lle yr oedd wedi bod yn bugeilio am tua dwy flynedd—yn mis Chwefror, 1838, cafodd yno golled fawr trwy i'w dy fyned ar dân yn y nos, pryd y llosgwyd y rhan fwyaf o'r dodrefn, y dillad, y llyfrau a'r ysgrifeniadau, a phrin y diangodd ef a'i deulu heb ond ychydig o ddillad am danynt. Yr oedd yn golled fawr i fyfyriwr caled a gweithgar fel Dr. Everett, iddo gael ei amddifadu o'i holl lyfrau ar unwaith. Y llyfrau duwinyddol, yr esponiadau, a'r geiriaduron a fuont yn gymdeithion iddo o ddechreuad ei weinidogaeth, yn nghyd a'r llyfrau oedd ef wedi gasglu yn ystod pymtheg mlynedd o arosiad yn America; heb son am y golled am holl law-ysgrifau boreuddydd ei fywyd a'i weinidogaeth. Diameu y buasai genym lawer yn ychwaneg ddefnyddiau at hanes boreuol ei fywyd, oni b'ai yr anffawd hon. Daliodd yn dawel a hunan-feddianol yn ngwyneb yr amgylchiad, gan deimlo yn ddiolchgar iawn i'w Dad nefol am fod eu bywydau wedi eu harbed.

Tua diwedd Ebrill, 1838, cymerodd ofal eglwysi Steuben a Phen-y-mynydd, ac arosodd gyda hwynt nes ei symud i'r nef. Yr oedd diwygiad anarferol o rymus wedi newydd fod yno cyn iddo symud atynt. Rhoddir ychydig hanes am ei gysylltiad â'r diwyg- iad hwnw yn nes yn mlaen. Fel hyn y dyweda y Parch. Sem Phillips, yn ei hanes gwerthfawr am eglwys Steuben, am amser cyntaf gweinidogaeth Dr. Everett yno: "Tymor o ddyfrhau oedd tymor cyntaf gweinidogaeth Dr. Everett yma. Yr oedd lluaws o