Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ieithwr rhagorol. Cyhoeddodd gyfieithiad Cymraeg o "Alcestis" Euripides yn 1887, pan oedd yn olygydd papur newydd yn Lloegr, ac yr oedd yn Lladinwr hyffordd. Dysgodd Lydaweg, yn nyddiau'r ymglywed rhwng Llydaw a Chymru, a bu'n ymdrawo rhywfaint ag anawsterau Gwyddeleg. Cymerai ddiddordeb mewn ieithoedd gwneud, ac yr oedd ganddo gasgliad o'u llawlyfrau-Volapuk, Nova Romana, iaith Bolak, Esperanto ac eraill. Credai yn yr egwyddor, ond nid oedd hyd yn oed Esperanto yn ei gwbl fodloni. Wedi ei fyned i Lundain i wasanaeth y Llywodraeth (aeth yno tua 1907) dysgodd Hwngareg, ac ef oedd yr awdurdod ar yr iaith honno yn y swyddfa lle'r oedd. Yr oedd, wrth gwrs, yn gynefin â'r ieithoedd Lladin, a llefarai Almaeneg yn ddigon rhugl. Mewn gramadeg, byddai ganddo rai mympwyon, megis tuedd i ganlyn ymresymiad y gramadegwyr a fynnai gynt beri i gystrawen pob iaith gydymffurfio â chystrawen Ladin. Yr oedd yn dra hoff o rifyddiaeth a mechaneg, a dyfeisiodd beiriant cyfrif, "Melinrivo" oedd yr enw a roddai arno. Credai y gallai wella ar y peiriannau