Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfrif sydd eisoes ar arfer, ac yr oedd ganddo beiriannau cymhleth a droid gan olwyn ddŵr at ddwyn ei arbrofion ymlaen. Bu farw a'r ddyfais heb ei chwpláu. Byddai ganddo gynt hefyd syniadau am foddion i ddiwygio peiriannau printio. Yr oedd ganddo lawysgrifen glir, bryd ferth, ac ni welais erioed gan neb law fer (ysgrifennai un Pitman) mor sicr a hawdd ei darllen.

O'i holl hoffterau, efallai mai Dante oedd y pennaf. Ni wn yn fanwl pa bryd y dechreuodd droi'r Divina Commedia i'r Gymraeg, ond yr oedd yn tynnu at orffen y gwaith pan ddeuthum i'w adnabod gyntaf, a rhaid ei fod wrthi ers blynydd oedd. Gofynnodd i mi ryw noswaith, pan wyliem yr Eifl megis ar dân ym machlud haul, a ddarllenswn i Dante. Cyfaddefais nas darllenswn. Diwedd yr ymddiddan fu iddo ofyn i mi a ddarllenwn drwy ei gyfieithiad fel y byddai yntau'n ei baratoi. Pan ddywedais na fedrwn i ddim Eidaleg, meddai yntau, "O, fe'ch dysg eich Lladin." Darllenais y cyfieithiad o ganiad i ganiad, ochr yn ochr â'r gerdd gysefin, ac er fy syndod, cefais fy mod yn dysgu Eidaleg heb yn