o ochr i ochr, yn debyg iawn i osgo breichiau dyn a laddo wair â phladur. Mewn gwirionedd, mab y bladur oedd Yr Hen Dolc. Wrth ei weled byddwn i yn meddwl am bladur wedi troi'n ddyn. "Un garw amdani ydi'r Hen Dolc," meddai pawb, ac arferid dywedyd ddarfod iddo unwaith wrth ladd gwair, gan faint ei" erwindeb amdani," gamu ymlaen mor eiddgar nes mynd llafn y bladur rhwng gwadn ei esgid a bysedd ei droed. Nid wyf yn meddwl y gallai hynny fod yn wir llythrennol. Ond yr oedd yn ddigon gwir mewn ystyr arall. Busnes Yr Hen Dolc mewn bywyd oedd "bod wrthi," a'i eiriau mawr oedd gyrru 'mlaen," "gyrru arni," "dal ati."
Ni chawsai odid ddim addysg, er bod iddo chwaer a gawsai. O'i fachgendod, y mae'n debyg, dysgwyd ef i "yrru 'mlaen." Byddai sôn ei fod yn medru "dal yr arad" yn wyth oed, ac yr oedd yn "canlyn y wedd" yn ddeuddeg. Ei un gofid fyddai methu "gyrru arni." Pan fyddai'n dywydd gwlyb, cwynai nad oedd fodd "gyrru arni." Pan godai eraill yn y bore, byddai'r Hen Dolc eisoes yn "gyrru arni," ac wedi nos wylio pawb, byddai yntau fyth yn "gyrru arni."