Torrodd ei law yn o ddrwg unwaith with "sbaena gwenith," ond daliodd i "yrru arni" drwy'r dydd, nes bod rhaid arno ymatal am beth amser wedi hynny tan law'r meddyg. Yn ystod yr amser hwnnw bu agos iddo dorri ei galon am na fedrai "yrru arni."
Ni fedrai na phrynu na gwerthu. Ni welwyd mono erioed mewn ffair na marchnad. Ei dad oedd y dyn at beth felly. Ped aethai'r Hen Dolc i'r ffair, "gwag symera" y galwasai ei dad hynny, ac yr oedd bob amser ddigon o waith "gyrru arni" adref i'r Hen Dolc.
Ai i'r capel ar y Sul, ond "gyrru arni" y byddai rhwng y cyfarfodydd y diwrnod hwnnw yr un fath. Ai i'r cyfarfodydd ar noson waith hefyd, bob amser ar frys gwyllt oherwydd methu "dwad i ben" a chychwyn mewn pryd. A gwelid ef yn prysuro ar hyd y ffordd, fel dyn â phladur yn ei ddwylo, ar ei hynt i'r capel, i wrando ar ei dad ac eraill yn sôn am y byd arall a drygioni hwn. Pa faint o ddifyrrwch neu o les a gaffai wrth hynny, ni wyddys, ond ni soniai'r Hen Dolc fyth air am un byd ond hwn, a'r rhaid oedd arno ef i "yrru 'mlaen" ynddo.