Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu farw ei dad a'i fam, priododd ei chwaer. Aeth y rhan fwyaf o'r eiddo, a gasglasai'r Hen Dolc ei hun drwy "yrru arni" mor gyson, i gadw'r chwaer a'i theulu ar eu traed rywsut. Ac am Yr Hen Dolc, bu raid iddo ef fynd i weithio am gyflog. Cyflog bychan iawn oedd hwnnw hefyd, rhyw chweugain yn yr wythnos a'i fwyd. Ond dyma'r cyflog cyntaf a enillodd Yr Hen Dolc -nage, y cyntaf a dalwyd iddo erioed. Paham nad aethai'n ffarmwr ei hun, meddai'r cymdogion wrth ei gilydd. Sut y gallasai? Ni wyddai ddim am brynu a gwerthu. "Gyrru arni" oedd ei orchwyl ef, ac aethai ffrwyth ei lafur i osod eraill ar eu traed.

Ni chwynodd Yr Hen Dolc ddim, hyd y gwybu neb. Aeth yn "was ffarm cyffredin," fel y dywedid, "gyrrodd arni" yr un ffunud tros arall am flynyddoedd, am chweugain yr wythnos a'i fwyd. Hyd y gwyddai neb, yr oedd "gyrru arni" yn gymaint o bleser iddo wedyn ag oedd cynt. Ac nid oedd ei feistr newydd fymryn tirionach wrtho nag a fuasai ei hen feistr, ei dad. Beth yn y byd oedd gymwys i'r Hen Dolc ond gyrru arni," a pha waeth dros bwy y gwnai hynny?