Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bynnag oeddynt—dysgodd feistroli ei law ac ysgrifennu Llaw Fer. Eto, yr oedd rhai anhawsterau yn aros. Gorfu iddo wynebu ysbaid arall o hyfforddiad caled—ennill cyflymdra a pharodrwydd yn enwedig. Ni phallodd unwaith yn ei ymdrech yr oedd ynddo benderfyniad ystyfnig, os tawel. Ysgrifennai bethau drosodd lawer gwaith yn ddi-gŵyn. Ac o'r diwedd, cafodd ei draed tano. Gwelais ei bapurau ar ôl ei farwolaeth. Mewn llawer ystyr, beth bynnag, dysgasai drefnusrwydd a gofal na buasai neb byth yn tybio ar y dechrau y cyrhaeddai eu bath.

Bu'n ohebydd i amryw bapurau, yng Nghymru ac yn Lloegr. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd hysbysiadau i wneuthurwyr rhyw feddyginiaeth anffaeledig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth adref am dro, a golwg go wael arno. Gofyn o gyfaill iddo paham na chymerasai beth o'r feddyginiaeth. Heb ddim ond gwneuthur rhyw lygad bach direidus, atebodd yn gwta, "Dyna wnês i!" Cyn hir, daeth yn ei ôl i Gaernarfon, a bu'n gweithio yno fel golygydd am rai blynyddoedd. Er maint oedd ei anfanteision, dysgodd y grefft honno yn drwyadl. Symudodd i Aberystwyth, oddi yno i Lanelli, ac yna am ysbaid i Gaerdydd.