Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfaddefodd wrthyf unwaith mai ei gas beth oedd y teleffôn, eto byddai â'r gragen wrth ei glust, yn ysgrifennu i lawr beth a ddywedai'r dyn yn y pen arall wrtho. Ond daeth y Rhyfel. Pan alwyd ef yn ei dro i'r fyddin, gwrthododd y meddygon ei dderbyn fel ymladdwr oblegid nad oedd ei galon yn ddigon iach, ond bernid, y mae'n debyg, ei fod yn gymwys i fynd i wneuthur rheidiau rhyfel. Felly, bu'n gweithio am fisoedd yng ngwaith Penbre. Rhyddhawyd ef oddi yno tua dechrau 1919, oblegid bod drwg ar ei ysgyfaint erbyn hynny; a phan ddychwelodd i Aberystwyth, nid oedd onid croen am esgyrn. Dechreuodd wasanaethu fel un o olygwyr y Cambrian News, ac am ysbaid edrychai fel pe buasai'n gwella; ond yr oedd y peswch yn dal ato, a gyrrwyd ef i Iachwyfa Tregaron, gyda'r bwriad, yn ôl a ddywedodd ef ei hun wrthyf, o'i symud ymhen ychydig i Dalgarth.

Gŵr prudd oedd wrth natur; eto, fel y dywed wyd eisoes, yr oedd penderfyniad ystyfnig yn perthyn iddo. Pan gychwynnai i Dregaron, dywedai wrthyf ei fod am fynnu gwella. Cymerai dawelwch a gorffwys, meddai, a deuai yn ei ôl a gorffennai'r nofel yr oedd wedi ei chynllunio, yn