Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

disgrifio bywyd yn y gwaith pylor. Credwn y gwnai hynny, canys gwyddwn iddo wneuthur pethau mor anodd a hynny.

Ond nid hir y bu yn Nhregaron cyn dyfod yr hanes mai gwaethygu yr oedd. Torrodd ei galon, mi gredaf, ac yna suddodd yn gyflym. Bu farw fis Gorffennaf, 1920, a chladdwyd ef yn Aber ystwyth. Nid oedd ond tua deugain oed. Nid oedd ddrwg ar ei ysgyfaint pan aeth i'r gwaith pylor. Bu'r mynych newid o wres mawr i oerfel a gwlybaniaeth, y chwysu a'r oerni, yn ormod iddo. Yng ngwasanaeth ei "wlad" y lladdwyd ef. Yr oedd yn ddrwg iawn gan yr holl swyddogion caredig dros ei weddw, meddent hwy, ond nid oedd fodd gwneuthur dim erddi, wrth gwrs, ac y mae hi'n gorfod ennill ei thamaid orau y gallo. Dylai ei gydwladwyr gael gwybod cymaint â hyn o'r hanes—peth nad tebyg y cânt o unman arall. Pan gofiwyf amdano, ni bydd gennyf i ddim parch i'm "gwlad," mi gyfaddefaf.

Dywedais iddo yn gynnar gymryd hoffter at ddarllen nofelau, a breuddwydio am ddyfod yn nofelwr ei hun. Llafuriodd yn galed iawn i ddysgu'r grefft honno. Darllenodd yr holl nofelwyr Saesneg gwerth eu darllen, ac yr oedd