Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

noddfa i lofruddion! Dyma noddfa i lofruddion! Dyma noddfa i lofruddion!"

Yr oedd yn graff iawn, a'i lygaid bob amser yn agored ar ragoriaethau a diffygion dynion. Gwnai i'r manylion lleiaf wasanaethu ei amcan, a dysgodd gynhildeb rhyfeddol. Diwygiai ei waith yn barhaus. Gwelais ei gopïau ef ei hun o rai o'i ystraeon Saesneg a Chymraeg, wedi eu torri a'u pastio ar ddail gwynion, a'u diwygio hyd yn oed ar ôl eu cyhoeddi. Allan â phob gair dianghenraid, a gwelid ei gais parhaus i ddyfod o hyd i'r ffordd symlaf o ddywedyd peth. Cadwai ei gyfrinach i'r diwedd.

Ceir enghraifft nodedig o hynny yn yr ystori fer olaf, ond odid, a sgrifennodd—"Mynd adref," a gyhoeddwyd yn Y Goleuad, tua'r Nadolig, 1915, mi gredaf. Yn honno, dychmygai hanes bachgen o Gymro yn y Rhyfel yn Ffrainc. Gwelwch ef yn breuddwydio yn y ffos, weled ei dad a'i fam, a'i hen athro yn yr Ysgol Sul gynt, yn dyfod ato. Meddai ei dad wrtho:

"Wel, dyma lle'r wyt ti? Mi ddywedais ddigon wrthyt, on'd do? Er, pe bawn ugain mlynedd yn iau, hwyrach mai yma y baswn innau hefyd!"