Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swyddogion y brenin wedi eu parottoi i hyny; fel y darfu iddynt adnewyddu eu llw o ffyddlondeb i Lewelyn, eu hunig benteyrn cyfiawn: ac yntau wedi derbyn yr adgyfnerthiad yma, a ddechreuodd ymosod yn ddisymwth ar y gormeswyr Seisnig, gan adfeddiannu yr holl amddiffynfeydd a ddaliai y brenin trwy ei diriogaethau; oddieithr cestyll Deganwy a Rhuddlan, y rhai, gan eu cadarned, ni's gellid eu cymeryd yn rhwydd.

Y brenin John, wedi ei gythruddo yn ddirfawr trwy anrheithiad y Cyffin-diroedd gan y Cymry. a barodd grogi yr wyth ar hugain gwystlon oeddynt yn ei feddiant, yn ngwydd ei lygaid, ac yn mhresenoldeb ei fyddin.yn nhref Nottingham; gan ymhyfrydu yn edrych ar dranc y rhai diniwed: ac oddeutu yr un pryd, Robert Vepont, un o brif swyddogion y brenin, a barodd grogi Rhŷs ab Maelgwyn, plentyn dan saith mlwydd oed, yn y Mwythig. Yr holl wystlon uchod, oeddynt fechgyn ieuainc, cangenau o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd trwy Gymru.

Ond, tra yr oedd y brenin dan ddylanwad y gynddaredd ddialgar yma. yn parattoi cadgyrchiad arall i Gymru, efe a frawychid trwy hysbysiaeth oddiwrth frenin yr Alban. Ac oddiwrth ei ferch, gwraig Llewelyn, yn ei rybuddio fod cydfrad peryglus yn erbyn ei fywyd, yn cael ei ffurfio gan ei bendefigion ef ei hunan; a bod Llewelyn, a'r tywysogion Cymreig. yn debyg o ymuno yn y cyd-frad; a hyn, yn nghyd a'r ystyriaeth, fod meildith y Pab yn gorwedd arno, a barai iddo lwfrhau, a dychwelyd yn ol o Gaerlleon, heb gyflawni ei fwriad creulawn, o arllwys ei ddialedd ar Gymru.

Erbyn hyn yr oedd amryw o Farwniaid Lloegr wedi ymgyngrheirio i fynu mesur o ymwared oddiwrth dra arglwyddiaeth y Pennadur, a rhyw weithred gadarn er sicrhau rhyddid cyffredinol y deiliaid; ac yn yr ymdrech yma, fe'u cefnogid yn bybyr a chywir gan Llewelin, ac amryw o'r tywysogion Cymreig; ac felly cawsom yr anrhydedd fel cenedl, a fod a llaw fawr, os nad y fwyaf. yn mynu cael y Freinlen Fawr, ("Magna Charta:") o'r hon yr ymogonedda Prydain gymaint.

Gwnaeth y brenin ymdrechion egniol i ddarostwng y Barwniaid Seisnig eto, a dirymu y Freinlen Fawr a ganiatasai efe iddynt; ac fel yr oedd efe yn llwyddo, a'r Pab yn cymeryd ei blaid, ac yn ysgymuno ei wrthwynebwyr, efe a'u gorthrymai yn dostach nag erioed: ac yn y cyfwng yma, bu dewrder a dianwadalwch Llewelyn o'r gwerth mwyaf i'r Barwniaid, er eu galluogi i gadw meddiant o'r Magna Charta wedi ei gael. Yn nghanol yr helyntion hyn bu farw y brenin John, yn Newark-upon-Trent, wedi treulio oes druenus, a'i wneyd ei hun yn wrthddrych dygasedd a dirmyg ei gymmydogion a'i ddeiliaid, trwy ei nwydau afreolus, ei ymddygiadau twyllodrus, a'i ysbryd gorthrymus; a'i fab a goronwyd yn frenin yn ei le, yn Eglwys Gadeiriol Caerwynt, ar yr 28ain o Hydref, 1210, dan yr enw Harri III. Nid oedd y pennadur hwn namyn naw mlwydd oed pan fu farw ei dad; a'i deyrnas mewn cyflwr hanerog a chythryblus; ac ni fu Llewelyn yn esgeulus o'r cyfryw gyfleustra i helaethu ei diriogaethau, a chadarnhau ei lywodraeth; a diau pe y buasai y Barwniaid Seisnig wedi bod mor ffyddlawn i gyflawni eu hymrwymiadau iddo ef, ag y buasai efe i gyflawni ei ymrwymiadau iddynt hwy, y buasai rhanau helaeth o Loegr wedi eu huno â Chymru dan ei arglwyddiaeth: ond bu Iarll Penfro larlil'eufro, Gwarcheidwad y brenin ieuanc, yn llwyddiannus i yru y tywysog Louis o Ffrainc, yr hwna feddiannasai y brif ddinas, o'r deyrnas, i dori nerth y gwrthryfelwyr yn Lloegr, ac i orfodi y Barwniaid anfoddawg i dalu eu gwarrogaeth i'r brenin Harri; a than yr amgylchiadau hyn, bu raid i Lewelyn fyned i gyfammod a'i frawd yn nghyfraith breninol; ac i'r perwyl hyn hwy a gynhaliasant gynnadledd yn Worcestcr, yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad y brenin Harri, pan y gwnaed cyfammod rhyngddynt, yn yr hwn yr ymrwymai Llewelyn i roddi cestyll Aberteifi a Chaerfyrddin, y rhai a berthynent i Iarll Penfro, i fynu, ac na roddai achles i neb o elynion y brenin: ac o'r tu arall, caniatteid i Lewelyn gyflawn arglwyddiaeth ar yr holl diriogaethau a berthynent i Gwenwynwyn, hyd oni ddeuai ettifeddion y tywysog hwnw i gyflawn oedran; a Llewelyn o'i du yntau a ymrwymai i roddi cynhaliaeth resymol i'r ettifeddion hyny, pa un bynag a'i yn Lloegr neu yn Nghymru y byddent dan addysg, ac i dalu ei gwaddol i Margaret, ferch Rhŷs ab Gruffydd, Arglwydd y Deheubarth,a gweddw Gwenwynwyn.[1]

Buasid yn dysgwyl y buasai heddwch yn ffynu rhwng Lloegr a Chymru am gryn yspaid yn y canlyniad i'r ymgyfammodiad uchod: ond hên elyniaeth rhai o'r Arglwyddi cyffindirawl at Llewelyn a dorrodd allan, ac felly ail ennynodd y fflam yn fuan, ac ni bu Llewelyn yn fyr o dnalu y pwyth iddynt am eu ffalsder; eithr ni oddef cynllun y gwaith hwn i ni roddi hanes manwl o'r cadgyrchiadau a ganlynodd. Ond oddeutu yr adeg yma, dygwyddodd un amgylchiad neillduol, ag y mae cof traddodiadol amdano, yn nghadw yn nghymmydogaeth Aber hyd y dydd hwn. Mewn rhyw ysgarmes a fu rhwng Llcwelyn a gwyr y brenin. yn y flwyddyn 1228, yn nghymmydogaeth Trefaldwyn, lle yr oedd anwylddyn y brenin, y prif farnydd Hubert de Burgh yn adeiladu castell newydd, cymerasai Llewelyn, bendefig Seis'nig ieuanc, o'r enw William de Breos neu Bruce, yn garcharor; ac efe a'i dug ef i'w gastell yn Aber, lle yr ymddygai tuag atto â haelfrydedd ncillduol: ac ar ol bod yn garcharor dros ryw yspaid, efe a gafodd ei ryddid i ddychwelyd adref, ar yr ammod o roddi castell Buallt i ddwylaw Llewelyn, a thalu tua thair mil o farciau yn arian. Ond, wedi ei ollwng ymaith, cludwyd yr hysbysiad i Lewelyn, fod de Breos, tra yn Aber, wedi llithio y Dywysoges i gyfeillach anweddus, yr hyn a'i cythruddodd ef yn ddirfawr; ac felly, gan benderfynu dial y fath sarhad, y Tywysog a anfonodd i wahodd y pendefig Seisnig ar ymweliad cyfeillgar i'w lŷs, yr hwn a ddaeth, a chryn nifer o geraint a chyfeillion i'w ganlyn; ond wedi i Llewelyn eu gwledda yn groesawus, heb amlygu unrhyw arwyddion o'i ddigofaint, yn nghorph y noswaith hono, efe a barodd garcharu holl ganlynwyr W. de Breos, a'i grogi yntau ar bren, mewn lle a elwir "Gwern y Grogfa," ar gyfer y llŷs tywysogaidd. Y mae traddodiad yn yr ardal, fod y Dywysoges ar ei mynediad allan y boreu dranoeth, wedi cyfarfod yn ddamweiniol â'r Bardd teuluaidd; yr hwn, gan ei fod yn deall nad oedd hi yn gwybod dim am yr hyn a gymerasai le yn nghorph y nos, a'i cyfarchai gan ddywedyd:—

"Diccyn doccyn, Gwraig Llewelyn.
Beth a roit ti am wel'd Gwilym"

I'r hyn yr attebai hithau fel y canlyn:—

  1. Rymers Feodera, voi. ii. p. 227.