Tudalen:Cymru fu.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a llysiau i'w rhoddi yn yr arch. "Weithiau chwanegid at hyn dorth o fara a darn o arian ynddi. Yna cydymgrymai yr holl alarwyr, a'r offeiriad, os yn bresenol, a adroddai Weddi yr Arglwydd; ac arosai yr orymdaith, ac adroddid yr un weddi, yn mhob croesffordd, hyd oni chyrhaeddent y Llan. Ymddengys y byddent yn yr hen amser yn arfer claddu drwg weithredwyr mewn croesffyrdd, a thrwy eu bod yn credu nad oedd ysprydoedd drygionus y cyfryw ddynion yn myned nepell oddiwrth y corph, yr oeddynt yn darllen y gweddi er mwyn gwrthladd effeithiau niweidiol yr ysprydion hyn ar yr ymadawedig.

Cludid yr arch gan y perthynasau agosaf, hen ddefod trwy ba un y cyflwynid y parch uwchaf i'r ymadawedig. Oddiwrth y Rhufeiniaid, mae yn debyg, y cawsom ni y ddefod hon, oblegyd yr oedd mewn arferiad ganddynt hwy. Dygid arch Metellus, gorchfygydd Macedon, gan ei bedwar mab. Fel arwydd o barch i'r sawl a haeddent barch gan y Werin-lywodraeth, cludid ef i dŷ ei hir gartref gan Ustusiaid a Seneddwyr; tra y dygid gelynion y bobl gan gaethion a gweision llogedig. Y mae defod gyffelyb hefyd yn Ucheldiroedd yr Alban, a elwir Coranich.

Ond yr arferiad fwyaf swynol mewn cysylltiad âg Angladdau Cymreig ydoedd yr un o ganu ar y ffordd tua'r Llan. Yr oedd gwrando ar y canu hwn, yn enwedig mewn manau annghyfanedd a gwledig, yn wir ardderchog. Dygwyddais fod unwaith yn eistedd ar ben craig fawr a elwir Clogwyn Dinmel, yr hon sydd yn crogi uwchben un o'r nentydd gwylltaf a serthaf yn ngogledd Cymru, sef y Glyn Diphwys, ar y ffordd fawr rhwng Ceryg y Drudion a Chorwen. Yn ngwaelod y Glyn y mae'r afon Ceirw yn ymdywallt dros graig serth, gan ewynu a ffurfio rhaiadr mawreddog a thrystfawr. Y mae y ffordd wedi ei thori yn y graig rhwng Clogwyn Dinmel a gwaelod y Glyn, ond cuddid hi rhagwyf gan goed deiliog a dyfent ar astellau yn y graig uwch ei phen. Tra yn eistedd fel hyn gan edmygu trwst dibaid y rhaiadr ar y naill law, a chaniadau nwyfus yr adar ar y llall, tarawyd fi â syndod trwy i orymdaith angladdol ddechreu caun "Yr Hen Ganfed " yn y ffordd islaw. Yr oedd yr effaith fel perlewyg, dystawodd pob aderyn yn y fan i wrando ar yr acenion galarus, peidiodd yr awel â chwareu ar ei thelyn y dail, ond yr hen raiadr a bistylliai yn mlaen gan ymunaw a chymeryd y bâs isaf yn y beroriaeth. Wedi iddynt ymsymud ymaith, ac i'r gerddoriaeth raddol ddarfod yn y pellder, nid oedd gan y Glyn unrhyw swynion i mi. Gadewais ef,