Tudalen:Cymru fu.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bersonau a fuont yn ceisio cael gan rywbeth arno. Pan fydd y glaswellt felly wedi tyfu yn uchel, y mae yn naturiol iddo ogwyddo dros y lle noeth, ond y mae pob rhan a ddelo uwchben y bedd yn gwywo, ac yn syrthio fel lludw; ac felly y mae y lle mor Iwm yn nghanol haf ag yn nghanol gauaf. Y mae ei sefyllfa yn mhell oddiwrth y beddau eraill, ar gyfer pen dwyreiniol yr Eglwys. Gelwir ef, "Bedd y dyn a gafodd ei grogi ar gam." Dichon y bydd llawer yn annghredu hyn, oni bai iddynt weled y peth eu hunain; ac nid rhyfedd chwaith, canys y mae cynifer o chwedlau o'r fath yn mhlith y Cymry heb ddim sail iddynt ond mympwy ac ofergoeledd; ac yr wyf yn cyfaddef na chredais hyn fy hunan heb ei weled, a bum am flynyddau lawer yn meddwl fod rhyw rai yn rhoddi cyffeiriau gwenwynig ar y lle er atal tyfiad y llysiau. Ond y mae yn ymddangos fod y peth yn cael ei achosi gan Awdwr deddfau natur; ond pa un ai yn naturiol neu yn oruwchuaturiol, ni cheisiaf ateb. Barned pawb trosto ei hun. Dymunwn i naturiaethwyr, llysieu- wyr, fferyllwyr, a duwinyddion, roddi eu barn ar y pwnc. Yr wyf yn sicrhau fod y fath beth yn bod mewn gwirionedd; a phwy bynag a gymero'r drafferth i fyned i Drefaldwyn, ni chaiff ei siomi yn y tir diffrwyth. Y mae yr hanes a draddodir am y condemniedig a'r tystion tu hwnt i bob anmheuaeth, canys y mae wedi digwydd mor ddiweddar. Casglwyd yr hanes gan un o weinidogion yr Eglwys; ac argraffwyd a chyhoeddwyd ef yn bamphledyn oddeutu saith neu wyth mlynedd yn ol, dan yr enw, The Highwayman's Grave ac o'r pamphledyn hwn y cafodd y newyddiaduron Seisnig yr hanes, mae yn debyg, yr hwn a gyfieithiwyd yn onest a diduedd gan Mr. W. Williams."

CAE'R MELWR.

[Yr ydym yn dyfynu y chwedl ganlynol o waith yr ysgrifenydd gwir dalentog hwnw Salmon Llwyd, a ymddangosodd yn y cyhoeddiad rhagorol Y Brython, gan deimlo yn hyderus y ca pob Cymro o chwaeth ddywenydd wrth ei ddarllen. Y chwedloneg oreu a feddwn yn yr iaith Gymraeg ydyw.]


Er ys llawer blwyddyn hirfaith, wrth danllwyth mawr o fawn, ar aelwyd gynhes Ty'n y Ddol, yn Mlaenau