Tudalen:Cymru fu.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byth na phelydred ar druenus lun
Y lanerch hon. Yn iach i Brydaian wen.


HENGIST.
Ffyrnigwch eto — sicrhewch y nod;
A'ch Cyllill Hirion cerfiwch yma glod
Eich enwau, ddewrion;
A minau floeddiaf nes bo'r bryniau draw
Yn gwyro'u penau dan ddylanwad braw,
Byw fyddo'r Saeson


EIDIOL
Nid felly'n hollol! tra bo"r trosol hwn
Yn nwylaw Eidiol!.symud beth o'r pwn
Esgorodd brad.
Taw! Hengist! taw! mae dewrder yn fy mryd,
A chryfder yn fy mraich, gwnaf laddfa ddrud
O blaid fy ngwlad!
Gwel hwn! gwel fi! mae gwaed gwrolion lu
Yn chwyddo'm mynwes,— Denwch yma'n hy',
Ysbrydion arwyr f y nhirionaf wlad,
Rhowch nerth i'm braich i ddial ar y brad!
Dyrnodiaf rai o dan fy nerthol draed;
Er nad oes genyf gleddyf llym,
Ca'r Saeson deimlo hwn a'i rym,
A threngu yn eu gwaed!
Gwel, Hengist, brawf yn eu celeiniau gwael
Fod nerth a dewrder gan y Britwn hael."


SAESON AR LAWR.
O! frodyr! rhoddwch help! mae'n hesgyrn ni
Yn ddrylliau man! gwrandewch ein marwol gri,
A lleddwch Eidiol!"


HENGIST
Rhowch frath i Eidiol, sydd fel ellyll braw
Yn angau corphol yn y fangre draw; ::Prysurwch, ddewrion,
Ah! mae'n gynt
Na'r ffrochus wynt
Ar ffo yr awrhon."

Y mae llawer o wadu wedi bod ar y frad hon. Dywed Mr. Stephens, o Ferthyr, mai chwedl ydyw a ddyfeisiodd y Brutaniaid i guddio gwaradwydd brwydr Cattraeth, yn mha un, yn ol y Gododin, y syrthiodd tri chant a thri a thriugain o'r pendefigion Brutanaidd mewn brwydr gyda'r