Tudalen:Cymru fu.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu bod yn dychymygu celwydd." Rhyfeddodd y brenin wrth yr ymadrodd hwn, ond o ran chwilfrydedd parodd i'r dewiniaid ddyfod gerbron. Anerchodd y llanc hwynt a dywedodd, " Am nas gwyddoch pa beth ydoedd tan sylfaen y castell yn llesteiriaw i'r gwaith sefyll, anogasoch. y brenin fy rhoddi i farwolaeth, er mwyn cymysgu fy ngwaed gwirion gyda'r defnyddiau, fel pe gwnaethasai hyny ryw les. Dywedwch wrthyf, os medrwch, pa beth sydd dan y sylfaen; canys diameu fod yno rywbeth annghyffredinol."Dechreuodd y dewiniaid ofni, ac nid atebasant air. Ebai y llanc, " Arglwydd frenin, pâr gloddio dan y sylfaen, a thi a gei lyn mawr yn y ddaear, a hyny ydyw yr achos na saif yr adeilad." Wedi cloddio, cafwyd y llyn fel y rhagddywedwyd. Yna gofynodd Annfab eilwaith i'r dewiniaid, "Chwi, dwyllwyr euog, pa beth sydd tan y llyn hwn?" Ond nid atebasant air. Ebai Annfab wrth y brenin, " Gorchymyn i'r llyn gael ei ddyhyspyddu, ac yn ei waelod ceir dau faen gau (hollow stones), ac oddifewn iddynt y mae dwy ddraig yn cysgu." Wedi gweled gwirio rhagddywediad y llanc am y llyn, credodd ei eiriau am y dreigiau hefyd. Dyhyspyddwyd y dwfr, a chafwyd pobpeth fel y rhagddywedasai y llanc. Enillodd hyn iddo ffafr fawr gyda'r brenin, ac edmygodd ei holl osgorddion a phawb oddigerth y dewiniaid. Annfab y llian y gelwid ef cyn hyn, eithr o hyny allan gelwid ef Myrddin, am ei gael gerllaw Caer Fyrddin, a chwanegwyd at yr enw yna Emrys. Myrddin Emrys y Dewin ydyw yr enw wrth ba un yr adwaenir ef yn bresenol.

Fel yr oedd Gwrtheyrn un diwrnod yn eistedd wrth ochr y llyn dyhyspyddedig, daeth i fyny o hono y ddwy ddraig — un yn goch, a'r llall yn wen, a chan ddynesu at eu gilydd, dechreuasant frwydr wir frawychus. Poerent dân, ac ysgydwent eu cynffonau anferth. Ymlidiodd y ddraig wen yr un goch i ganol y llyn; ond gan ymgreuloni, trôdd yr un goch ar ei herlynes, a gorfododd hithau i ffoi. Wedi i'r frwydr ddreigiol hon fyned trosodd, archodd y brenin i Fyrddin ddeongli ei hystyr, a'r Dewin a dorodd i wylo yn chwerw dost, a thraddododd y broffwydoliaeth hon: —

PROFFWYDOLIAETH MYRDDIN EMRYS Y DEWIN.

"Gwae y ddraig goch, canys dynesa dydd ei halltudiaeth. Meddianir ei chuddfanau gan y ddraig wen, yr hon a arwyddocâ y Seison, a wahoddaist ti i Brydain;