Tudalen:Cymru fu.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y sarff hedegog. Efe a eistedd ar ei chefn noeth, ac a afaela gyda'i law ddeau yn ei llosgwrn. Wrth ei ddolefau cynhyrfir y moroedd, gan hyny yr ail a frawychir. Yr ail a wna gyfamod gyda'r llew; ond ymrafael yn dygwydd rhyngddynt, hwy a ymladdant â'u gilydd. Doluriant y naill y llall, ond y bwystfil a fydd fuddugol. Yna daw un gyda thympan a thelyn, ac a larieiddia ddywalder y llew. Cenedloedd y deyrnas gan hyny a heddychir, a'r llew ar fantawl ei galwant. Yn ei eisteddfa efe a wnel bwysau cyfiawn, a'i law a estyn efe ar yr Alban. Wrth hyny cymydau y gogledd a dristânt, a drysau eu temlau a agorant. Y blaidd serenog a arwain ei fyddinoedd, a chyda'i losgwrn a amgylcha wlad Cernyw. Gwrthwynebir ef gan filwr mewn cerbyd, yr hwn a drawsffurfia y bobl hyny yn faedd. Y baedd gan hyny a anrheithia y cymydau, ac yn Hafren y cuddia efe ei ben. Gŵr a' gofleidia lew, a dysglaerder aur a ddalla y sawl a edrychont. Arian a wynha yn y cylch, ac a flina y gwinweisg. Dynion a feddwant ar win, ac yn ddibris o nefoedd, byddant brysur a helbulus ar y ddaear. yry y ser eu gwynebau oddiwrthynt, a dyrysir eu cylchdroadau. Yr ydau a grinant wrth eu hagr weddau; ac ni syrth gwlith o'r nef. Y gwraidd a'r cangau a gyfnewidiant leoedd, a newydd-der y weithred a gyffelybir i wyrth. Tanbeidrwydd Mercurius a wanhâ, a'r sawl a edrychont arni a frawychir. Stalbon a symud darian Arcadio, penfestyn Mars a eilw ar Fenus. O benfestyn Mars y gwneir gwasgawd,a chynddaredd Mercurius a gyrhaedd ei derfyn- au eithaf. Orion haiarnawl a symud ei gleddyf, y môr a flina y wyby, Jupiter a edy ei llwybrau cyfreithlon, a Fenus a gyrch oddiar ei llinell. Addfwynder Sadwrn seren a ddygpwyd, ac o rym cryman y lladd hi ddynol- ryw. Deuddeg tu y seren a alarant ymgyrchiadau afreolaidd eu lletywyr; a'r Gremini a omeddant ymgofleid- io, — galwant y celwrn i'r fi'ynonau. Mantol y Punt (Libra) a orwedd yn gam hyd oni roddo'r Maharen (Aries) ei gyrn ceimion o tano. Llosgwrn y Sarff (Scorpio) a gynyrch fellt, a'r Cranc (Cancer) a ymrafaelia gyda'r Haul. Y Wyryf (Virgo) a esgyn gefn y Scythyd (Saggitarius), ac a dywylla ei blodau gwyryfol. Cerbyd y lloer a ddyrysa y Zodiacum, ac ymdora Pleiades allan i wylo. Ni ddychwel neb i wasanaeth Janus, ond ei ddorau cauedig a ymguddiant yn ogofau Ariadne. Ar darawiad paladr y moroedd gyfodant. a lludw yr hynafiaid a adnewyddir. Y gwyntoedd a ymfrwydr-