Tudalen:Cymru fu.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tynwyd y cynllun hwn allan yn nhŷ Dafydd Daron, deon Bangor; yma y bu'r "baedd, y blaidd, a'r llew," chwedl dehonglwyr prophwydoliaeth Myrddin, yn rhanu yr ysglyfaeth cyn ei ddal. Syr E. Mortimer, ar ran ei nai, a gymerai yr holl wlad o du'r dehau i'r Trent, ac o du'r dwyrain i'r Hafren; y Percies oeddynt i gael yr holl wlad o du'r gogledd i'r Trent; a Glyndwr yr holl wlad o du'i gorllewn i'r Hafren (yr hyn a gynwysai Cymru oll).

Yr oedd Owen yn awr yn anterth ei rwysg a'i ogoniant Gwysiodd holl bendefigion Cymru i'w gyfarfod yn Machynlleth; yno cydnabyddwyd ef yn Dywysog Cymru, a dodwyd coron ar ei ben; a dywedir fod cynrychiolwyr i frenhinoedd Ffrainc a Spain yn bresenol ac yn cymeryd rhan yn y ddefod. Y mae yn aros yn y dref hono adeilad hen, musgrell, a diaddurn, a elwir "Senedd-dŷ Owen Glyndwr," ag y byddai bron yn sarhad ar ysguboriau ereill ei alw wrth yr enw "ysgubor;" ond am y goron, llithrodd hono ar encil i dir angof, ac ni chlybuwyd mwyach air o son am dani. Druan o Gymru! dyma y goron ddiweddaf allodd hi fforddio roddi ar ben yr un o'i harwyr.

Yn y gynadledd a gymerodd le ar ol y coroniad bu agos i Owen golli ei fywyd. Yn mhlith y rhai a ddaethant i dalu gwarogaeth iddo yr oedd boneddwr o sir Frycheiniog, a elwid Dafydd Gam, am fod ei lygaid yn groesion. Y gwr hwn, er ei fod yn briod gyda chwaer Owen. a ddygai y fath gasineb tuag ato fel yr ymddangosodd yn Machynlleth gyda'r bwriad bradwrus o'i lofruddio. Dywed Carte mai Harri oedd wedi anog Gam i wneud hyn; ond ni rydd un prawf. Dywed Pennant, fod Gam yn offeryn cymhwys i gyflawni gweithred o'r fath; ei fod yn ddewr a beiddgar ryfygus, fel y profodd ei hunan yn mrwydr Agincourt, Ffrainc. Wedi ei ddanfon i archwilio rhifedi y gelyn cyn dechreu y frwydr hono, dychwelodd gyda'r hysbysiad, "fod digon o honynt i'w lladd, digon i'w gwneud yn garcharorion, a digon i ddianc ymaith!" Pafodd bynag, er i'r Saeson enill y fuddugoliaeth ogoneddusaf ar lechres eu hanesyddiaeth ar y Ffrancod yn Agincourt, er hyny Gam, Roger Fychan ei fab-yn-nghyfraith, a'i berthynas Gwalter Llwyd, a gollasant eu bywydau eu hunain wrth achub bywyd eu brenin, Harri o Fynwy. Prysurodd y brenin i'r fan yr oeddynt yn marw yn eu gwaed, a chymaint o daledigaeth ag a allai brenin weinyddu iddynt yn eu sefyllfa bruddaidd a dderbyniasant-— gwnaeth hwynt yn Farchogion.

Ond i ddychwelyd at linyn yr hanes, daeth brâd Gam