Tudalen:Cymru fu.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno eu bod wedi myned tua'r Amwythig; a gwelodd mai ei amcan yn y symudiad hwn oedd uno ei fyddin gyda'r eiddo Owen a Mortimer. Ei fantais ef oedd atal i'r uniad gymeryd lle; prysurodd tua'r Amwythig, a cyrhaeddodd yno ychydig oriau o flaen Hotspur, a thrwy hyny arbedodd ei goron. Yn y cyfamser, yr oedd Grlyndwr wedi arwain ei wyr hyd at Groesoswallt, ac wedi danfon dosran o 4,000 honynt, tan lywyddiaeth ei frawd-yn-nghyfraith, Syr Jenkyn Hanmer, at wasanaeth Hotspur. Y gwyr hyn a ymladdasant yn anrhydeddus, a lladdwyd eu llywydd yn mhoethder yr ymladdfa. Amcanodd Hotspur groesi y caerau, a gorchfygu y brenin o'u mewn; ond yn gweled hyny yn anmhosibl, enciliodd dair milldir oddiwrth y dref, a gwersyllodd mewn man a elwir oddiar hyny, Battle- field. Ei fwriad, mae yn ddiddadl, yn y symudiad hwn, ydoedd ysgoi brwydr hyd oni chyrhaeddai adgyfnerthion ei gyngreiriaid.

Dyna sefyllfa y pleidiau pan guddiodd yr haul ei wyneb arnynt ar yr 2ilfed o Fehefin. Bore dranoeth, Harri yn awyddus am frwydr, a ymosododd ar Hotspur yn ei wersyll, ac yr oedd y Gogleddwr enwog yn ddigon dewr i sefyll ei dir y tro hwn, er fod corpholaeth byddinoedd ei ddau gyfaill heb ei gyrhaedd. Dechreues y frwydr trwy i fwawyr Hotspur daflu cawod o saethau i rengau eu hymosodwyr, y rhai a wnaethant ddinystr mawr, a bwawyr y brenin a atebasant mewn dull effeithiol; a dechreuodd y ddwyblaid ymladd o ddifrif. Amcan Hotspur, a'i gyfaill Ysgotaidd Douglas, ydoedd lladd y brenin; a chan ddibrisio eu bywydau eu hunain, rhuthrent trwy ei fyddin, a chyrhaeddent i'r fan y safai. Lladdwyd tri o geffylau o tan ei fawrhydi, a chyfarfuasai yntau â'r un dynged oni buasai am ofal ei wyr trosto; lladdwyd ei fanerwr (standard-bearer), cymerwyd ei faner, a dodwyd hi tan ofal gwarchlu o wrthryfelwyr, a chafodd Hotspur gynifer o fanteision yn nechreu y dydd, nes y dechreuid pryderu mai ef a gariai y dydd. Yr oedd cwymp y faner yn tueddu y gwrthryfelwyr i gredu fod y brenin ei huan wedi syrthio, a'r dyb hono yn eu cynhyrfu i ymladd gydag yni adnewyddol, ac i oraian gwaeddi, Harri Percy frenin! Harri Percy frenin!" Yn y cyfwng hwn, tra yr oedd Percy yn gwibio trwy y fyddin freiniol ar ymchwil am y brenin, efe a syrthiodd yn ddisymwth wrtho'i hun yn nghanol ei elynion, ac ni wyddis hyd y dydd hwn pwy a achlysurodd ei farwolaeth. Mor fuan ag y clybu y breniu am y digwyddiad, efe a gasglodd ei nerth lluddedig yn