Tudalen:Cymru fu.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hithau ei luddias. "Cofia," ebai ef, "am yr hyn a ddywedais wrthyf; ac ymddiddan ag ef mewn ysmaldod cariad, ac ymhola pa fodd y daw efe i'w angau."

Y noson hono, Llew Llaw Gyffes a ddychwelodd, a threulio llawer o amser a wnaethant mewn ymddiddan a cherddau a chyfeddach. A'r hwyr aethant i orphwys, ac efe a siaradodd unwaith a dwywaith wrth Blodeuwedd, eithr nid atebodd hi iddo un gair. "Pa beth a ddigwyddodd i ti? a ydwyt iach?" ebai ef." "Myfyrio yr oeddwn am yr hyn nas myfyret ti am danaf fi, sef gofalu am dy angau, os elit o'm blaen i." "Duw a dalo it' am dy ragofal; eithr hyd oni chymer y nef fi, nid hawdd fydd fy lladd." Ebai hithau, "Er mwyn y nef a minau, dywed wrthyf yn mha wedd y daw dy angau; canys y mae fy nghof i yn well i'w ymogelyd na'r eiddot ti." "Dywedaf yn llawen," ebai ef, "nid hawdd y gellir fy lladd, oddieithr trwy ergyd; a rhaid i'r waywffon y'm tarewir ag ef fod flwyddyn yn ei wneuthuriad, heb i neb weithio arni o gwbl ond pryd aberth ddydd Sul." "Ai gwir hyn?" ebai hithau. "Digon gwir; ac nis gellir fy lladd mewn tŷ nac allan o dŷ, ar farch nac ar droed." " Yn mha ddull ynte y gelli' dy ladd?" "trwy wneud badd imi ar lan afon, a dodi cronglwyd uwchben cerwyn y badd, a thoi hwnw yn dda a diddos; a dwyn bwch a'i ddodi ger llaw y gerwyn a dodi ohonof finau un troed ar gefn y bwch a'r llall ar ochr y gerwyn; a phwy bynag a'm tery felly, a bâr fy angau." " Diolchaf i'r nefoedd," ebai hithau, "y gellir osgoi hyny yn hawdd."

Mor gynted ag y cafodd hi yr ymadrodd hi a ddanfon- odd at Gronw Pebyr. Gronw a lafuriodd yn gwueud y waywffon, ac yn mhen un dydd a bwyddyn yr oedd yn barod, ac efe a barodd i Blodeuwedd wybod hyn y. "Arglwydd," ebai hi wrth y llew, " bum yn myfyrio pa fodd y gall yr hyn a ddywedaist wrthyf gynt fod yn wir; a ddangosi di i mi pa fodd y gallet sefyll ar ymyl y gerwyn ac ar y bwch, os darparaf y badd-le?" "Dangosaf," ebai yntau.

Yna hi a ddanfonodd at Gronw, ac a archodd iddo gadlechu yn nghysgod y bryn a elwir yn awr Bryn Cyfergyr ar lan yr afon Cynfael. Hi a archodd hefyd gynull yr holl eifr yn y Cantref, a'u dodi yr ochr arall i'r afon, gyferbyn a Bryn Cyfergyr.

A thranoeth, hi a ddywedodd wrth llew: — "Perais ddarparu y gronglwyd a'r ymdrochle, ac y maent yn barod." Ebai llew, "Awn i edrych arnynt."