Tudalen:Cymru fu.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dydd, a hyny rhag ofn yr holl adar, canys bydd yn eu hanian dy faeddu a'th anmharchu. Ac ni cholli dy enw, eithr gelwir di drachefn Blodeuwedd." Dallhuan ydyw Blodeuwedd yn iaith yr oes hon; ac oherwydd hyny, yr holl adar a gashant y ddallhuan.

Yna Gronw Pebyr a ymgiliodd i Penllyn, ac oddiyno danfonodd genhadau. A'r cenadau a ofynasant i Llew Llaw Gyffes os cymerai efe dir neu ddaear, neu aur neu arian, yn iawn am ei sarhad. "Na chymeraf, myn y nefoedd," ebai llew, " a dyma y peth leiaf a gymeraf fi ganddo: — Iddo ddyfod i'r man yr oeddwn i pan archollwyd fi gyda saeth ganddo, ac i minau sefyll lle y safai yntau, a chyda saeth anelu ato. A dyma'r iawn lleiaf a gymeraf fi ganddo."

Mynegwyd hyn i Gronw Pebyr. Ebai yntau, "A raid i mi wneud hyn? Fy ngwyr ffyddlon, a'm tylwyth, a'm brodyr maeth, a oes un ohonoch chwi a gymer yr ergyd hwn yn fy lle?" "Nac oes, yn ddiau," ebynt hwythau. Ac oherwydd gomedd ohonynt ddyoddef un ergyd tros eu harglwydd, y gelwir hwynt hyd y dydd hwn, "Y trydydd anniwair deulu." "Wel," ebai ef, " mi a'i cymeraf."

Yna daethant eill dau hyd at lan yr afon Cynfael; a Gronw a safai yn y fan y safai Llew pan ei harchollwyd, a Llew yn y fan y safai Gronw. Ebai Gronw wrth Llew, "Yn gymaint ag imi wneud a wnaethum i ti trwy ystryw gwraig, tyngedaf di yn enw y nefoedd i ganiatau imi roddi rhyngwyf â'r ergyd y llech a welir acw ar lan yr afon." Ebai llew, "Diau ni'th omeddaf o hyny." "Duw a dalo it'," ebai Gronw; ac efe a gymerth y llech, ac a'i dodes rhyngddo a'r ergyd.

Yna llew a daflodd y saeth, nes y treiddiodd trwy y llech ac i gefn Gronw. Felly y lladdwyd Gronw Pebyr. Ac y mae llech eto ar lan yr afon Cynfael, yn Ardudwy, a thwll ynddi; a gelwir y llech hono, llech Gronw.

Eilwaith, cymerodd Llew Llaw Gyffes feddiant o'i diroedd, a gwladychodd yn llwyddianus ynddynt. Ac yn ol yr hanes efe a fu. arglwydd wedi hyn ar Wynedd oll.

Felly y terfyna y gainc hon o'r Fabinogi.