Tudalen:Cymru fu.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw, a chan ei fod ef pan yn fyw yn cael ei gyfrif yn ddyn geirwir, ie. geirwir iawn, y ffordd decaf o'r haner ydyw cofnodi yr hwn fyddai ef yn ei ddweyd yn nghylch y trybini y bu ynddo. Hen ŵr eithaf diofn oedd Lewis, ac ymddengys ei fod felly er pan oedd yn llefnyn. Dywedai ei fod yn cofio unwaith bod yn cynull mewn cae yn perthyn i'r tyddyn dan sylw. efe a llawer eraill hefyd; ond ar ol iddynt rwymo tua haner y cae, daeth rhywbeth anweledig i ddatod pob ysgub yn mhob ystwc, gan eu hysgrialu o gwmpas y lle yn dryblith-drablith." Nid unwaith na dwywaith y gwnaed hyn," ebe fe, go flaen fy llygaid, ar gefn canol dydd goleu. " Aeth Lewis William hefyd i gysgu i'r tŷ ryw noson er mwyn ceisio gwastadhau, os oedd yn bosibl, y fath gynhwrf anhyfryd. Ond nid oedd dim siawns cael llonydd; yr oedd rhywbeth ambell dro o dan y gwely, bryd arall uwch ei ben; weithiau tua'r traed, a phryd arall yn tynu'r gobenydd i ffwrdd: ac yn y diwedd fe ysgystiai'r holl dŷ mor gynhyrfus. fel y gorfu ar y teulu chwilio am gymhorth o le arall. Nid dyn digalon, llwfr, a gwael, oedd Lewis William; na. nid ar chwareu bach y rho'ai ef y goreu iddi; ac felly fe benderfynodd wneud ail gynyg arni hi. Cymerth Fibl a chanwyll, ac i'r ystafell a flinid fynychaf yr aeth. gan feddwl treulio'r nos mewn gweddio a darllen y Gair Dwyfol; ond gwarchod pawb! yn mhell cyn haner nos, dyma yr hen gythryblwr yn dechreu arni hi,ac er gwaethaf na Bibl, na gweddi, dechreuodd hel a thrin yn iawn.

Dyma fo'n peri "i fab Sian bach fyned yn nghylch ei fusnes ei hun," ac yn llenwi y lle â drewdod mwyaf annioddefol. Yr oedd oglau mawr ar ddillad Lewis dranoeth. "Noson ofnadsan oedd hono," meddai, "ac nis gwn yn siwr felly, pa sut y fu hi yno i gyd; ond methais, beth bynag, a gwastradedd y peth." Âr ol hyn, awd am yr hen Williams y Ficer, oblegyd nid oedd neb yn yr oes hono yn debyg iddo. Bu ef mewn amryw fanau yn siarad neu rhywbeth efo'r cyfryw gythryblwyr anghyweithas; ac er iddo farw yn werth tua deugain mil o bunoedd, nid oddiwrth y rhai hyny y mae yn cael ei adnabod gan ei ôl-oeswyr, ond fel y dyn a fyddai yn "gostegu cythreuliaid." Awd i ymofyn yr hen Ficer yno o rywle, pe dae waeth, a daeth yntau yn unol â'r cais, a bu yno helynt blin. Methai yn lân loyw landeg a chael na phen na phont ar yr Un Drwg, a dywedai ei chwaer fod ei ddillad pan ddaeth yn ei ol yn drewi yn enbydus; fod oglau brwmstanaidd ar ei gnawd am ddyddiau. Ond bu ef yn