Tudalen:Cymru fu.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer geneth wenithaidd iachus a wnaeth yn adyn gwelw afiach; a llawer mam a wnaeth yn amddifad o'r rhai ag yr oedd ei chalon wedi cael ei chyplysu â hwynt. Dywedid na chysgai na dydd na nos, ond y byddai yn gwylio am ymddangosiad drychiolaethau. Ac yr oedd yn medru cael gwybod pob rhyw gynllun a wneid er mwyn ceisio cael ymwared â hi. Pan oedd dau neu dri un noson mewn tŷ tafarn yn y Ddinas wedi bwriadu myned â hi yn un aflwydd cebystr i'r Amwythig, a'i dwyn dan law'r gyfraith, cafodd wybod hyn oll cyn y bore, ac yr oedd wedi peri i chwech o fustych un syrthio tros y graig; wedi medru gyru cŵn yr ail i ladd ei ddefaid o'u cyrau; ac wedi rhoi diofryd arall ar y trydydd fel na fedrai, pe caisai'r byd am ei boen, fod yn llonydd am ddim un mynyd. Yr oedd yn meddwl pan eisteddai fod pigau eithin a drain yn mhob peth, ac felly yr oedd yn gorfod crwydro fel llwdn â'r bendro; eisiau cael eistedd, ac yn methu bod yn llonydd; blino'n crwydro, ac eto nis gallai aros amrantiad yn yr unman.

Ond yr oedd gŵr cyfarwydd yn rhywle yn y Deheudir, ac ato yr aed am swyn ar gefn Sali, a chaed un ofnadwy. Dechrsuodd ei heu gydymaith (cythreulig) ei hysu a'i chigyddio yn arswydus, ac nid oedd derfyn ar ei phoenau; rhedai oddiamgylch gan waeddi'n wyllt, "Dyma fo! dyma fo!" ac yna dyrwygai ei chnawd mewn modd mileinig Pan gaffai rywfaint o seibiant, naill ai byddai yn gweddio, neu yn tyngu, gan erfyn am ychwaneg o boenydiau croesdynns i'r adyn a'i hudodd oddiar lwybrau rhinwedd. Ond erbyn rhyw fore, yr oedd Sali wedi croesi'r llinell. Dy- wedir fod ei chorph yn ysgynon mân — nad oedd yno fodfedd o groen cyfa, nac un asgwrn heb ei falurio. Bu ei thŷ yn annghyfanedd am hir feithion flynyddoedd, ac y "mae nhwn deyd" nad rhyw dawel iawn ydyw y lle hyd yn oed yn ein hamser ni. Cafodd Rhys y Cwm "meddan nhw;" afael ar rai o lyfrau Sali, ond methodd a'u deall, ac felly fe ddarfu am y cwbl o swynion Sali o fewn terfynau Cwm Mawddwy.

Dyna swp o goelion mynyddig.