Tudalen:Cymru fu.djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr holl ardaloedd oddiamgylch. ond yr un mor aflwyddianus. Yr oedd y foneddiges yn dihoeni o'u hachos, canys rhodd oeddynt iddi hi gan chwaer drengedig. Pa fodd bynag, daeth i feddwl y boneddwr am Robin Ddu, a thybiodd oddiwrth y son am dano, os byddai rhywun yn abl i'w cael, mai Robin oedd hwnw. Danfonwyd cenad ar farch ar frys gwyllt i Wynedd i ymofyn y Dewin; ac ufuddhaodd yntau i'r cais. Yr oedd i gael haner cant o bunau os llwyddai i dd'od o hyd i'r trysorau. Eithr wedi cyrhaedd yno ni ddechreuai ef ar y gwaith o gwbl, os na chai y tâl, llwyddianus neu beidio. Barnai y gŵr boneddig fod hyn yn ormod o arian i'w rhoi ar antur, a hysbysodd Robin y carasai wneud prawf o'i allu dewinol yn nghyntaf cyn talu. "Boddlon fi," ebai yntau; er nad oedd ganddo ond ffydd fach nad syrthio trwodd y buasai yn y prawf; "ond," meddai, "mi gefais fy ngludo yma yn rhad, ac nid peth bach ydyw hyny i glerfardd. "Felly yr hunan-fyfynai efe mewn un ystafell, tra yr oedd y boneddwr yn parotoi y prawf mewn ystafell arall. Y prawf a ddewiswyd oedd dodi Robin Goch dôf oedd yn y palas o tan gawgen ar y bwrdd, a pheri i Robin Ddu ddewinio beth oedd o tan y llestr. O'r diwedd, gwysiodd y boneddwr ef ato, a daeth yntau tan grafu ei lechwedd a gwneud golwg hurt, fel dallhuan yn breuddwydio. "Wel," ebai'r gwr boneddig," beth sydd o tan y gawgen yna, Robin?" Ond ni wyddai Robin tu yno i lidiart y mynydd beth i'w ddweyd na'i wneud. Tybiodd o'r diwedd mai y ffordd oreu fyddai iddo addef ei anwybodaeth. "Mae Robin wedi ei dual yr 'rwan," ebai ef. "Da iawn, wir; da iawn, wir," ebai'r boneddwr, sut y gwyddet ti, Robin, beth oedd islaw i'r gawg? Yr wy'n foddlon 'nawr i dalu'r aur." Ac nid oedd gan Robin yn yr oes hono ddigon o gydwybod i'w gwrthod; yn wir, ychydig fuasai yn eu gwrthod yn yr oes gydwybodol hon.

Pa fodd bynag, y peth nesaf i Robin ar ol derbyn yr arian oedd ei henill. I ddechreu, mynodd gael ystafell yn y palas at ei wasanaeth ei hun, a chael allwedd y cyfryw yn hollol tan ei awdurdod. Cafodd un yn rhwydd, ac yno yr aeth, ac yno y byddai yn ocheneidio ac yn darllen rhyw druth o hen lyfrau a ddygasai gydag ef tros yr holl dŷ, er mwyn argyhoeddi y bobl ei fod mewn cyfrinach bwysig â bodau annaearol o barth y lladrad. Ar brydiau deuai allan i'r gegiu, gan lygadu a chlustfeinio, holi a stilio, ar draws ac ar hyd, pawb yn nghylch y gemau. Yr oedd yn llwyr argyhoeddedig oddiwrth