Tudalen:Cymru fu.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y llawr mewn llewyg, ac y bu farw yn y fan. Dychwelodd Llewelyn; eithr efer ceisio darlunio ei deimladau pan ddeallodd fod prydferthwch ei lygaid ac eilun ei enaid wedi huno yn yr angau. Tan ei deimladau cyffrous ar y pryd, efe a gyfansoddes gywydd marwnad iddi, yr hwn a arddengys y galar dwysaf.

Gair Mwys. — Dafydd ab y llosgwrn a aeth at ei Athraw Pencerdd, sef oedd hwnw Einion Offeiriad, ar fedr ymresymu a chael addysg ganddo. A gofyn a orug y Pencerdd iddo a wyddai efe pa fodd i draethu gair mwys. Yntau, gan gwbl anobeithio cael ychwaneg o ymresymu ag ef, achos na wyddai pa fodd i ateb, a ddywedodd rhyngddo ag ef ei hun, ac mewn anobaith gresynol, "Duw a Mair a'm helpo!" Ond ni wyddai eto mai gair mwys oedd a ddywedasai. Eithr yr Athraw Pencerdd a'i croesawodd yn fawr gan ddywedyd, "Godidog y dy wedaist, dyna air mwys, canys ni wyddis pa un ai Duw a Mair a'm helpo, ynte Duw am air a'm helpo, yw y meddwl". Cyffelyb chwedl a ddywedir am Sion Tudur, y bardd o Lanelwy, pan gurodd efe hen wraig â pholgae, am iddi ddwyn pys o'i gae. Yr hen wraig a achwynodd wrth yr Esgob; yntau, gan holi Sion, a ofynodd yr achos iddo guro yr hen wraig. Sion a atebodd, "Ni wneis i ond ei churo am bys." Yr Esgob, gan dybied mai dywedyd yr oedd," Ni wneis ond ei churo â'm bys," sef â fy mys, a faddeuodd iddo.

Gwaithfoed. — Gwaithfoed, arglwydd Cilwyr a Cheredigion, oedd yn byw yn amser Edgar Frenin. A'r Edgar hwnw a ddanfones at dywysogion Cymru yn gorchymyn iddynt ei gyfarfod ef yn Nghaerlleon Gawr, a rhwyfo ei fâd ef ar y Ddyfrdwy. A Gwaithfoed a ddanfones ateb i Edgar gan ddywedyd na fedrai ef rwyfo ysgraff; a phe medrai, na wnelsai ond er gwaredu brenin neu wreng rhag angau. Edgar a ddanfones eilwaith ato, a chyrda hyny gorchymyn caeth; eithr ni roddai Gwaithfoed ateb am enyd i'r genad, a hwnw yn deisyf ateb a jíha beth a ddywedai wrth y brenin. "Dywed fel hyn wrtho," ebai Gwaithfoed, "Ofner na ofno angau." Ac yna y daeth Edgar ato, a rho'i llaw yn garedig iddo, ac ymhŵedd arno fod yn gâr a chyfaill iddo; a hyny a fu. Ac o hyny allan, arwyddair epil Gwaithfoed fu "Ofner na ofno angau."

Llewelyn ab Cadwgan. — Yn y flwyddyn 1399, daeth gŵr o Gymro (ac ni soniai o ba dylwyth yr hanai), o Ryfeloedd