Tudalen:Cymru fu.djvu/261

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Groes, i fyw i Gaerdyf. Ei enw oedd Llewelyn ab Cadwgan; a chymaint oedd ei haelfrydedd fel y rhoddai i bob tlawd a geisiai ganddo, neu a welai mewn eisio. Efe a wnaeth dŷ wrth yr hen Dŵr Gwyn at gynal cleifion a hen diallu. Efe a roddai'r maint a geisid gantho, nes rhoi'r cwbl; ac wedi hyny efe a roddes ei dŷ mawr a theg, a elwid y Plasnewydd, i'r Mathanaid, a rhoddes ei werth, nes darfu'r cyfan; ac yn y diwedd bu farw o newyn ac eisiau, ac ni roddai neb iddo, gan ddanod iddo ei wastraff ar gyfoeth.

Hen Gyfraith Gymreig. — Ymddengys oddiwrth hen gyfraith un o dywysogion Cymru, fod cath ddof yn greadur gwerthfawr a gwasanaethgar. Yr oedd ceiniog am un fechan cyn iddi agor ei llygaid; dwy geiniog o'r amser hwnw hyd oni ddaliai lygoden; a chymaint â hyny bedair gwaith pan ddeuai i'w chyflawn faintioli. Yr oedd hyny yn brisiau mawr iawn wrth gyferbynu gwerth arian y pryd hwnw a'u gwerth yn ein dyddiau ni. Dirwyid pawb a laddai gath y tywysog pan fyddai hi yn gwylied ystordy ŷd (granary), i dalu mamogiad, a'i chroen, a'ihoen; neu gymaint o wenith ag a fyddai yn ddigon o swm i guddio blaen ei chynffon trwy ei dy wallt ar y gath yn cael ei dal i fynu gerfydd ei chynffon a'i phen yn cyffwrdd y llawr.

Diwedd Dafydd ab Llewelyn. — Gwedi i'r Penwyn a'i feibion, am ddeg punt a buarth o wartheg, fradychu Dafydd brawd Llewelyn, Iorweth brenin Lloegr a ddaeth a'i gŵyn yn ei erbyn, fel yn erbyn un o'i ddeiliaid ei hun. Gorchymynodd un ar ddeg o ieirll a chant o farwniaid y deyrnas i'r frawdle; a'r brenin oedd yn bresenol. Nid oedd ynddynt deimlad nefolaidd drugaredd; ac yn marn John de Vaus, prif ynad Lloegr, yr oedd rhywbeth agos tu hwnt i ddychymygion trigolion uffern — iddo gael ei lusgo wrth gynffonau meirch drwy heolydd Amwythig i fan y dyoddefaint, am iddo geisio bradychu y brenin a'i gwnaeth yn farchog; iddo gael ei grogi am ladd Fulk Trigald a marchogion eraill yn nghastell Hawardin; a'i galon a'i gylla i'w llosgi, am iddo wneuthur y gelanedd ar ddydd Sul y blodau; a thori ei ben oddiwrth ei gorph, a'i aelodau i'w crogi i fynu, mewn pedwar lle cyhoeddus, mewn amryw fanau yn Lloegr o achos iddo fwriadu angau y brenin. Celain Dafydd a ddyoddefodd hyn i'r eithaf; a chymaint oedd gorfoledd y Saeson, fel y bu ymryson taer rhwng trigolion Caer Efrog a Chaer Wynt am yr