Tudalen:Cymru fu.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anrhydedd o gael y fraich ddehau; ond yr anrheg gigyddlyd a farnwyd yn deilwng i Gaer Wynt; a'r aelodau eraill a ddanfonwyd ar frys gwyllt i Gaer Efrog, Bristol, a Northampton; ac er fod trigolion Caer Ludd mewn llawenydd, ei ben a osodwyd ar bawl yn y Twr Gwyn, yn agos i ben ei frawd. — Y Greal.

Athronddysg:

  • Yn y talcen y mae y deall.
  • Yn y gwegil y mae y côf.
  • Yn y iad y mae y dosparth.
  • Yn y deall, a'r côf, a'r dosparth, yn un, y mae y pwyll.
  • Yn yr ysgyfaint y mae'r anadl.
  • Yn y ddwyfron y mae y chwaut.
  • Yn yr afu y mae y gwres.
  • Yn y gwythi y mae y gwaed.
  • Yn y bustl y mae y digofaint.
  • Yn y ddueg y mae y llawenydd.
  • Yn y galon y mae y cariad.
  • Yn y rhai hyn i gyd y mae y serch.
  • Yn y serch y mae yr enaid.
  • Yn yr enaid y mae y meddwl.
  • Yn y meddwl y mae y ffydd.
  • Yn y ffydd y mae Mab Duw.
  • Yn Mab Duw y mae bywyd didranc.
  • Yn mywyd didranc y mae gwynfyd anorphen.

A gwyn ei fyd y neb a wnelo yn iawn â'r yniau a ddodes Duw ynddo, er cyrhaeddyd gwynfyd anorphen hyd byth bythoedd. — Y Bardd Glas o'r Gadair a'i dywed.

Chwedl y Mynyddoedd. — Cof genyf wrth groesi gwahanol ranau o fynyddoedd Berwyn, pan yn fachgen, weled olion aredig mewn llawer o fanau. yn uchel a phell oddiwrth dai; yr oedd y grynau yn wastad ar i fynu yn erbyn y tir. A oes modd gwybod yn mha oesoedd y bu yr hen Gymry yn aredig y mynyddoedd ' Tybiwn i fod y lleoedd hyny yn rhy uchel i ddwyn cnwd yn awr; ond a oes rhyw gyfnewidiad yn hinsawdd ein gwlad rhagor yn yr hen oesoedd? Dywed Gutyn Peris, mewn ysgrif ger fy mron: "Yr oedd mynyddoedd Arfon yn goediog i'w cribau uchaf agos, hyd amser Edward y Cyntaf." Adiau fod Berwyn felly hefyd; canys y mae y mawndir yn llawn o goed, fel y gwyr y trigolion yn dda. ond yr wyf fi yn cymysgu pethau mi welaf, oblegyd y mae y tymhor y