Tudalen:Cymru fu.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn amser Harri VIII., a flinid yn fynych gan yr achau hyn, wedi apelio at y Cymry am iddynt fabwysiadu rhyw gynllun tuag at gwtogi eu henwau, ac i amryw ufuddhau i'w gais. Ond yn yr Eisteddfod fawr a gynaliwyd yn Nghaerwys, yn 1568, trwy orchymyn a dirprwyaeth y frenhines Elizabeth, rhoddwyd gorchymyn ar y Cymry gymeryd ac ymarfer â chyfenwau teuluaidd, cyffelyb i gyfenwau deiliaid eraill ei Mawrhydi; ac fod i'r Beirdd a'r gwŷr wrth gerdd dafod, gynghori a threfnu a gweled hyny; ac o hyny allan y Cymry a gymerasant gyfenwau gwahanol, rhai herwydd eu tadau, eraill yn ol fel eu gelwid cyn hyny, megys Elis Jones a Sion Wyn; ac eraill oddiwrth y rhanau o'r wlad a drigianent, megys Huw Gonwy, a William Llŷn. A chyn hyny nid oedd gan y Cymry gyfenwau, eithr dangos âch a bonedd a wnelid; a'r lle ni cheid y cyfryw, dodid damwain o enw fel ,y cydnabyddid ef yn llys y Brenin, ac am hyny y dywedir llysenw. A'r dull cyfreithiol a gymerwyd i gadarnhau yr enwau hyn oedd eu rhoddi yn ysgrifenedig ar bapur i glarcod y Sesiynau, a cheiniog gyda hwynt, ac enw y drigfan; yna dodid yr enw ar register y llys, ac o hyny allan adwaenid y person a'i wehelyth tros byth wrth y cyfenw hwnw.