Tudalen:Cymru fu.djvu/278

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynedd yn ogof ellyllon i'r Cymry, hi a ddinystriwyd gan dywysog ei gwlad ei hun, ac yn awr saif ei gweddillion yn nghanol y dyffryn paradwysaidd hwnw fel colofn halen, a'i cherrig rhyddion fel meirwon di-fedd.

Ar ddynesiad Iorwerth a'i lu, Llewelyn a ymneillduodd tros y Gonwy, ac ni buasai dim ond gwallgofrwydd yn tueddu neb i ymosod arno yn Eryri. Bu tad Iorwerth mor garedig wrtho a galw'n swyddogol arno adref rhag y torasai ei galon yn ngwyneb y fath aflwyddiant. Dim ond i Llewelyn encilio tros y Gonwy, a dodi ei wyr ei hun mewn dyogelwch, gofalai deddfau anian am ryfela hefo'i elynion. Yr oedd Llewelyn yn gryfach yn awr nag erioed. Gruffydd ab Gwenwynwyn, arglwydd Powys, a adawodd y Saeson, ac a ddychwelodd at ei ddyledwyddau tuag at ei wlad. Efe a ymosododd ar Gastell Wyddgrug, cadarnle olaf y Saeson ar gyffiniau Gogledd Cymru, ac a'i llwyr ddinystriodd, fel nad oes y dydd hwn gymaint ag un o geryg ei adfeilion yn aros. Yr oedd y Cyffiniau Seisnig erbyn hyn yn hollol ddiamddiffyn; a phob argoel fod annibyniaeth Cymru wedi ei sefydlu am byth.

Bellach, ymgasglodd y gwaed drwg Seisnig at ei gilydd; ac wele Simon de Montforte, iarll Leicester, yn ben ar wrthryfel nerthol. Efe a ddanfonodd ei ddau fab gyda byddin luosog i Gymru, i gynorthwyo Llewelyn ar y Cyffiniau. Cymerasant gastell Maesyfed, a gwnaethant alanasdra mawr, er fod Mortimer ac arglwyddi eraill, â'u holl egni yn eu gwrthwynebu. Pan glybu y tywysog Iorwerth am rwysg a llwyddiant anarferol y cynghreiriaid, efe a brysurodd tua maes y frwydr. Cymerodd Gastelli Hay, Huntingdon, a Brycheiniog oddiarnynt, trwy nad oedd gwarchluoedd y cyfryw fanau ond ychydig a gweiniaid. Erbyn iddo ddyfod i'r lle olaf, cyrhaeddodd Mortimer ato am ddyogelwch, wedi ffoi yn afreolaidd o flaen Llewelyn a'i gyfeillion. Llu o Gymry hefyd, tan dywysiad William de Berkley, a aethant i Wlad yr Haf, ac a anrheithiasant am yspaid yn ddiwrthwynebiad, ond yn y diwedd, gyrrwyd hwy ymaith gyda galanastra mawr, a'u llywydd a laddwyd. Dywed Warrington, oddiar awdurdod Rymer, fod cadoediad wedi cymeryd lle rhwng y brenin a'r cynghreiriaid, yn yr hwn gytundeb y gelwid Llewelyn yn gynghreiriad Simon de Montforte, ac y maddeuid iddynt bob troseddau; eithr Carnhuanawc, gyda llawer mwy o resymoldeb, a ddywed mai ar ol marwolaeth Montforte y cymerodd cadoediad o'r fath le, ac iddo gael ei ddwyn oddiamgylch trwy offerynoliaeth Otto-