Tudalen:Cymru fu.djvu/289

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addewid y byddai i'r brenin roddi Eleanor de Montforte yn wraig iddo. Tarawodd y brenin ar ei lecyn gwan - ei serch; ac yr oedd ymostwng i elyn trahaus yn bris bychan mewn cymhariaeth am gaffaeliad dyweddi mor hawddgar. Llewelyn a aeth i Worcester; a'r brenin a wnaeth y goreu o'i fargen i drymhau yr iau arno. Y mae Gwladgarwch a Dynoliaeth yn troi draw oddiwrth yr olygfa a gymerodd le. Pan ddygwyd ef gerbron Iorwerth, efe a ymostyngodd hyd at draed y trawsfeddiannwr, gan apelio at ei drugaredd a dodi ei hunan yn gyfangwbl yn ei law. Yna archwyd i'r ymostyngydd gyfodi; ac oherwydd ei ymddangosiad edifeiriol, y brenin a rasusol gymerth drugaredd arno, ac a faddeuodd iddo ei aml gamweddau: eithr tan rybuddion trystfawr os efe a anufuddhai wedyn nad allai ddisgwyl ond y cospedigaethau llymaf. Dyma y weithred fwyaf darostyngol a gyflawnodd yn ei holl fywyd: ac nis gall dim ddileu y gwarthrudd hwn oddiar ei gymeriad ond y ffaith ei fod yn gaethwas cariad ar y pryd; ac wrth adfyfyrio arno yr ydym yn barod i ofyn, Ai hwn ydyw'r Llewelyn a wrthsafodd holl allu a chynllwynion Lloegr am y cyfnod hirfaith o 36 o flynyddau, a ysgydwai ei gleddyf nes y crynai teyrnas Lloegr hyd ei gwraidd, ac a syrthiodd yn y diwedd yn mhlith adfeilion ei wlad yn aberth ar ei hallor?

Yna'r brenin wedi llwyddo i iselhau Llewelyn i'r diystyrwch pennaf, a roddodd iddo Eleanor de Montforte, yn nghydag etifeddiaeth ei diweddar dad. Ond ar fore dydd y briodas, tra yr oedd ef a'i ddyweddi ar gyrchu i'r offeren, Iorwerth a chwanegodd amodau eraill arno, sef fod iddo ddyfod i dalu gwarogaeth ddwy waith bob blwyddyn; ac na byddai iddo noddi yn ei diriogaeth neb gelynol i frenin Lloegr. Pa fodd bynag, o'r diwedd, cymerodd y brioda le ar y 13eg o Hydref.

Mor fuan ag yr oedd y ddefod briodas drosodd, Llewelyn a'i briod a brysurasant tua Chymru, yn ddiolchgar iawn, mae'n ddiamheu, am waredigaeth o grafangau'r fath ormeswr. Yr oedd sefyllfa wladol y genedl tua'r amser hwn yn isel iawn - eu darostyngiad yn gorwedd fel hunlle ar eu hysprydoedd, a galaru yr oeddynt am eu rhyddid gyda galar chwerw; eithr yn rhy weiniaid i'w adennill. Eto, er ar lawr, nid oeddynt feirwon; er tan iau yr estron, yr oedd eu cariad at ryddid a'u breintiau cynhenid mor fyw ag erioed, a'r cariad hwn a chwyddai bob gormes bychan yn drosedd anfaddeuol o fawr. Y penaethiaid Cymreig hyny a ddiystyrwyd yn Llundain, ac a ryddhawyd o'u