Tudalen:Cymru fu.djvu/293

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canterbury i Gymru y drydedd waith gyda'r amcan o ymresymu y gwrthryfel i lawr. Ond cafodd y gŵr urddasol allan fod ei apeliadau yn wannach na milwriaeth ei frenin, nad oedd gan ei resymau nemawr gwell traed i sefyll arnynt na hawliau egwein y teyrn Seisnig i ymryson â'r Cymry, a bod y tywysogion Cymreig yn deall logic cystal ag y deallai yntau, er mor "farbaraidd" yr ystyrid hwynt gan eu gelynion. Y mae'r brwydrau papurol hyn ar gael; a chan y dangosant wir sefyllfa pethau ar y pryd, ni a ddifynwn rai o'r llythyrau dyddorol a phwysig a ysgrifennwyd gan y ddwy ochr.

Ar y cyntaf, yr archesgob a atolygodd ar Llewelyn, Dafydd, a'r Cymry oll, i ymostwng yn ddiamod; a'r tywysog a atebodd ei fod yn barod i ymostwng i'r brenin, ond ar yr amod fod iddo gael cadw ei gydwybod yn ddilwgr, trwy yr hon yr oedd yn rhwym i gynorthwyo ei bobl; a chadw hefyd urddasoldeb ei sefyllfa. Yr Archesgob a ddychwelodd gyda'r ateb hwn at y brenin, ac yntau a atebodd na fynnai ddim amodau gan y Cymru oddieithr ymostyngiad llwyr i'w awdurdod ef. Da y gwyddai'r Archesgob na dderbynnid hyn gan y blaid arall. Yna efe a ymgynghorodd â'r arglwyddi Seisnig, a chytunwyd ar y telerau canlynol, y rhai a ddygodd yr archesgob, gyda chaniatâd llechwraidd y Brenin, at y Tywysog: -

A ganlyn a ddarllenwyd i Llywelyn yn ngwydd ei gyngor.

"Ni dderbyn y brenin ddim amodau o barth y Pedwar Cantref, y rhai a roddes efe i'w bendefigion; nac ychwaith yn nghylch Ynys Môn.

" Am wŷr y cantrefi hyn, os dychwelant i heddwch, efe a ymddwyn tuag atynt fel y gweddo i'w Fawrhydi. Ond credu yr ydym yr ymddwyn efe yn dirion os ymblygant i'w awdurdod; ninau a'n cyfeillion a egniwn ein goreu i ddwyn hyn oddiamgylch, a chredu yr ydym hefyd y byddwn yn llwyddiannus.

" Am Llewelyn ei hun, ni allasem gael un ateb arall na bod iddo ymostwng yn ddiamodiad i ewyllys y brenin; a chredwn y bydd i'r brenin ymddwyn yn dirion tuag ato. Ac i ddwyn hyny i ben, bwriadwn gyda'n cyfeillion eraill, lafurio â'n holl egni; ac hyderwn y cawn ein gwrandaw gyda llwyddiant.

A ganlyn a ddywedwyd wrth y Tywysog yn ddirgel.

" Yn 1af, Fod y pendefigion wedi cytuno ar y dull hwn o'r tiriondeb brenhinol; sef ar ymostyngiad yr arglwydd