Tudalen:Cymru fu.djvu/296

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac oll na roddant eu hunain ar drugaredd y Brenin yn ol ei ewyllys ef. (1.) Oherwydd na chadwodd yr arglwydd Frenin o'r dechreuad na'r amodau na'r llwon na'r gweithredoedd ysgrifenedig tuag at eu harglwydd y Tywysog, na thuag atynt hwythau. (2.) Oherwydd iddo ymddwyn fel y traws-lywodraethwr creulonaf tuag at yr Eglwys a'r gwŷr Eglwysig.

" Na chymerent hwy delerau y Brenin, am mai gwŷr y Tywysog oeddynt, yr hwn ei hun oedd yn barod i ufuddhau yn ol y defodau arferol.

" Am yr hyn a ddywedir, ' Fod i'r Tywysog ymostwng yn hollol a diamod i ewyllys y Brenin,' atebant, gan na feiddia yr un o'r cantrefi rhagenwedig ymostwng i'w ewyllys, oherwydd yr achosion rhagenwedig, ni chaniatâ eu cariad at y Tywysog iddo yntau ymostwng mewn un modd.

"Eto, mewn perthynas i'r pendefigion yn darparu fod mil o bunau yn cael eu rhoddi i'r Tywysog mewn rhyw fanyn Lloegr; atebant, na ddylai y cyfryw gynhaliaeth gael ei derbyn, oherwydd ei bod yn cael ei darparu gan y pendefigion hyny a ymdrechant ddietifeddu y Tywysog, fel y gallont gael ei diroedd yn Nghymru. Ac nid iawn i'r Tywysog ymadael â'i etifeddiaeth ef a'i hynafiaid yn Nghymru er amser Brutus, ac hefyd yn gadarnedig iddo ef gan genhadwr y Sedd Apostolaidd, fel y mynegwyd eisoes; a derbyn tir yn Lloegr, lle y byddai yn anwybodus o'r iaith, a'r moesau, a'r cyfreithiau, a'r defodau: a lle y dichon i rhyw ddadleuon gyffroi y Saeson yn ei erbyn o hen gasineb, trwy yr hyn y collai efe y tir hwnw tros byth.

"Eto, gan fod y Brenin yn bwriadu ymddifadu y Tywysog o'i gysefin etifeddiaeth, nid ydyw yn debyg y bydd i'r Brenin ganiatáu iddo feddiannu tir yn Lloegr, ar ba le nid ymddengys fod ganddo unrhyw hawl. Ac os na chaniateir i'r Tywysog feddiannu y tir anffrwythlawn a diffaeth, ei eiddo cynhenid trwy iawnder etifeddol yn Nghymru, pa fodd y caniateir iddo feddiannu tir maethedig a ffrwythlawn yn Lloegr?

"Eto, am fod i'r Tywysog roddi i'r arglwydd Frenin feddiant o Eryri yn hollol, yn fythol, ac yn heddychol; atebir gan fod Eryri yn rhan o Dywysogaeth Cymru, yr hon a biau ef a'i flaenafiaid er dyddiau Brutus, fel y dywedwyd eisoes, ni chaniatâ ei gyngor iddo ymadael a'r lle hwnw, a chymeryd lle llai dyledus iddo yn Lloegr.

"Eto, pobl Eryri a ddywedant, er y byddai i'r Tywysog roddi eu rhandiroedd i'r Brenin, eto hwynt-hwy ni phlyg-