Tudalen:Cymru fu.djvu/300

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glaniad, a'r rhai hyny oll bron a ddinystrwyd. Ar ol cael safle yn Mon, ac y mae yn rhaid cyfaddef mai safle bwysig ydoedd, bwriad nesaf y gelyn oedd croesi'r Fenai, a chael cefn y Cymry i ymosod arnynt yn Arfon. Gwnaethant bont o fadau wrth Moel y Dôn, yr hon oedd yn ddigon llydan i dri ugain o wyr gerdded ochr yn ochr ar hyd-ddi. Ond yr oedd llygaid y Cymry ar eu hysgogiadau, a dirgel ddarparent ar gyfer eu croesawu trwy godi gwrthgloddiau yn y coedwigoedd gerllaw. Cyn cwblhau'r bont, Syr William Latimer, gyda lluaws mawr o wyr goreu'r fyddin, ac arglwyddi Gascony a'r milwyr Yspaenaidd, yn gweled dim gelynion yn Arfon, nac yn wir yn malio dim am danynt wedi ymwroli yn fawr oherwydd eu llwwddiant yn Mon, a ddaethant trosodd a buont am amser yn ymddifyrru ac yn gwybeta ar hyd y traeth. Risiart ab Walwyn oedd cadlywydd y Cymry, ac efe ni chythryblodd ar yr ymosodwyr, gan y gwyddai y deuai'r llanw i mewn yn fuan, ac y torrid eu llwybr encil. A phan ddaeth yr amser cyfaddas, y Cymry a ruthasant o'u cuddfannau arnynt. Yna y bu mwstwr a ffrwgwd. Gwaed rhai o honynt a liwiai y traeth, eraill wrth ymgyrhaedd at y bont a gyfarfuant a dyfrllyd fedd; gwaedd angheuol rhai a rybediai yn y clogwyni gwatwarus (yr oedd ceryg ateb Arfon yn wladgarol y pryd hwn), gwaedd eraill foddid yn y weilgi safnrwth; os troent at y dwfr angau oedd yn ei si, os edrychent i'r tir cleddyfau sychedig am waed eu calonnau oedd yno; ac wrth garnau'r cleddyfau hyny ddynion wedi cael cam, wedi eu mathru gan orthrwm i ddyfnderau isaf dialedd, a thrais wedi alltudio o'u mynwesau bob tosturi a chyd- ymdeimlad. Syrthiodd o Saeson y dydd hwnw bumtheg barwn, deuddeg ar hugain o ysweiniaid, a mil o wyr cyffredin; ac yn mhlith y lladdedigion yr oedd Syr Lucas de Thany, Syr Wm. Dodingles, a Syr Wm. de la Zouch. Syr Wm. Latimer, eu cadben, yn unig allodd ddianc, a thrwy gryfder ei farch y diangodd ef. I'r amgylchiad uchod canodd rhy w fardd, o'r enw Cadwgan Ffol, yr englyn bras ond ergydiol a ganlyn; -

Llawer bran sy'n eisiau i'r brenin, - heddyw
Hawdd gallwn chwerthin,
Llawer Sais leubais libin
A'r gro yn do ar ei ***

Rhwygid awyr Eryri gan oroian oherwydd y fuddugoliaeth hon. Dychwelodd colomen gobaith eilwaith i blith y Cymry, a gwelent nad oedd byddin fostfawr Iorwerth yn anorchfygadwy. Aethant drachefn i oruwch-ystafelloedd