Tudalen:Cymru fu.djvu/306

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

banadlen byth drachefn yn mhlwyf Llanganten. Wrth bobl y plwyf hwnw, ni raid hysbysu fod y felldith, os bu erioed mewn grym, wedi ei llwyr ddileu er's llawer blwyddyn.

ARWYDDION ANGAU.

(OFERGOELION.)

BEIIR ni, mae'n ddiamheu, gan ddynion bychain crebachlyd eu meddyliau, am roddi ar gof a chadw rhyw Ofergoelion fel y rhai hyn ; pan yn anwybodus buasem ninau yn cydweled â hwynt. O'r ochr arall, pe gadawsem y gorgredoau allan, nid ystyriasai y gwybodus a'r deallgar ein Cymru Fu yn gyflawn hebddynt; gan mai y dull goreu i adnabod ansawdd wareiddiol a chymeriad deallol pob oes a chenedl ydyw gwybod pa bethau a gredid ganddynt. Hyd derfyn y ganrif ddiweddaf, credai tua naw o bob deg o'n cenedl mewn ofergoelion a rhagarwyddion mor gadarn ag y credent yr Efengyl ei hun; ac ystyrient y sawl a amheuai ddilysrwydd y cyfryw bethau yn ddim gwell nag Atheist. Yn wir, ychydig o flynyddau yn ôl, gan ddosparth lluosog o'n cydwladwyr, ystyrid pob dyn ychydig callach na'r cyffredin fel mewn cyfathrach â'r diafol, ac yn ddyledus i'w fawrhydi Satanaidd am eu rhagoriaeth mewn dysg a gwybodau. Felly yr ystyrid y Dr. John Dafydd Rhys Dr. John Cent, yr Archddiacon Prys, Huw Llwyd o Gynfal, ac yn bendifaddau y Dr. W. Owen Puw; ac ni bu erioed hen fechgyn glanach eu moes, a phurach eu dybenion, tra y chwarddent yn braf am ben mympwyon gwrachod a chorachod safnrhwth eu hoes. Ond clywsom ddynion gwybodus, dynion diarhebol am eu geirwiredd a'u duwioldeb, yn dweyd yn y dull mwyaf pendant eu bod wedi gweled gweledigaethau, a chlywed clywedigaethau, nad oedd modd eu priodoli i ddim cyffredin a naturiol. Wrth wrando ar y gwŷr geirwir hyn yn dweyd eu profiadau gyda'r rhan ysprydol o'r greadigaeth, ymgodai yn ein meddwl bob amser y cwestiwn. Tybed fod rhy w wyddon gywrain mewn ysprydiaeth nad ydym ni eto yn ei deall? Tybed fod cymundeb cymdeithasol rhwng yspryd ag yspryd dignawd, nad ydy w'r ysprydion mewn cnawd wedi ei