Tudalen:Cymru fu.djvu/307

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwilio allan? Beth am y cydgyfarfyddiad rhyfedd a gymerant le rhwng meddyliau a meddyliau pan byddo'r corph yn absennol? Beth am freuddwydion?

Gyda hyn o ragymadrodd, ni a awn yn mlaen i gofnodi yr Arwyddion Angau a gredid gan ein cyndadau, heb roddi ein gair tros ddilysrwydd y naill na'r llall o honynt: -

1. Canwyllau Cyrph. Math o oleuni nwyol yn tarddu oddiar leithder a llygredd oedd y "canhwyllau" hyn; fel yr Ellylldan (Jack-a'- Lantern) yn codi oddiar gors afiach. Y mae yn ddirgelwch pa fodd y priodolwyd erioed grwydradau direol y goleuni hwn i ragflaeniad marwolaeth, ac y galwyd hwynt yn" Ganiwyllau Cyrph. " Ond dyna'r ffaith. Pobl Dyfed pan ganfyddent y llewyrch (annaturiol, yn eu tyb hwy), yn ymlithro ar hyd rhyw ffordd neu lwybr, a benderfynent yn y fan y byddai corph un o'u cymydogion yn myned ar hyd yr unrhyw ffordd neu lwybr yn bur fuan. Clywsom y chwedlau anhygoelaf a ddisgynasant ar ein clustiau erioed am y Lampau Lledrithiog hyn. Dywedid y byddent yn amrywio yn eu maintioli yn ôl oed a maintioli yr hwn y rhybuddient ei farwolaeth. Fel hyn: - yr oedd "cannwyll" baban yn debycach i fagïen nag i gannwyll; tra y byddai "cannwyll" gŵr yn mlodeu ei ddyddiau yn cynud yn fawr fel fflam o goelcerth anferth. "Canwyll" wen a âi o flaen menyw, ac un goch a ragflaenai wryw. Dy wedid na byddent yn cerdded ar nosweithiau gwlybion; ond ar dywydd sych a thesog, gwelid hwynt mor aml â gwybed min nos yn Ngorphenaf. Canfyddid hwynt ar brydiau yn y fynwent yn tan heidio uwch ben y bedd a agorid ar fyrder. Y cyfryw oeddynt y rhamantau dieithr a goelid yn Nyfed, ac mewn mannau eraill o ran hynny, hyd ddechreu y ganrif hon, ac nid oedd y cwbl ond natur yn llosgi ei phydredd ei hun - trydan yn d'od i gyffyrddiad a'r nwy anmhur yn y gors a'r fynwent, a hwnnw we'di tanio yn aros yn llonydd neu yn cerdded o gwmpas wrth drugaredd y gwynt. Y mae'r "canhwyllau" hyn i'w gweled hyd y dydd hwn yn Môn, Dyfed, Dyffryn Clwyd, ac isel- diroedd Maldwyn; ond o drugaredd, ni frawychir y trigolion ddim mwy wrth edrych arnynt nag wrth edrych ar lewyrn (meteor), "syrthiad seren," yn nhŷ byr hen bobl.

2. Yr oedd sŵn, tebyg i sŵn cloch yn y glust yn arwydd sicr o farwolaeth; a digwyddai'r alaeth bob amser yn y cyfeiriad y digwyddai'r glust fod ar y pryd. Yn yr amser gynt hefyd, byddai cloch y llan yn dra gwasanaethgar fel rhybuddiwr, dywedai fod amser ymddatodiad rhai o'r