Tudalen:Cymru fu.djvu/315

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan glybu Bendigaid-Fran fod Matholwch yn ymadael â'r llys heb gymeryd ei genad, efe a ddanfonodd genadau ato i ofyn yr achos. Y cenadau hyn oeddynt, Iddic fab Anarawd, a Hefeydd Hir. Y rhai hyn wedi ei oddiweddyd, a ofynasant iddo, "Pa beth yr oedd yn ei wneuthur, a phaham yr elai ymaith?" "Diau," ebai yntau, "pe gwybuaswn ni ddaethwn yma. Cefais fy nirmygu, ni chafodd neb driniaeth waeth nag a gefais i yma."Beth yw hyny?" ebynt hwythau. "Rhoddi i'm Franwen ferch Llyr, un o dair prif rian yr ynys hon, a merch i Frenin Ynys y Cedyrn, ac wedi hyny fy ngwaradwyddo: a rhyfedd genyf na'm dirmygesid cyn rhoddi imi y rhian ardderchog "Diau, arglwydd," ebynt hwythau, "nad o fodd neb yn y llys, nac yn y cynghor, y gwnaed y gwaradwydd hwn iti; a chan iť gael dy ddirmygu y mae y gwarthrudd o hono yn fwy ar Fendigaid-Fran nag arnat ti" Ydyw yn wir,” ebai yntau, "er hyny nis gall efe ddileu y gwaradwydd." Y cenadau a ddygasant yr ateb yma i'r lle yr ydoedd Bendigaid-Fran, a mynegasant iddo yr ateb a roddasai Matholwch. Yn wir," ebai yntau, "nid oes yr un llwybr i'w luddias rhag myned ymaith na bydd imi ei ddefnyddio."

"Ie, arglwydd," ebynt hwythau, "anfon genadau ereill ar ei ol." Ebai y brenin, "Cyfodwch Fanawyddan ab Llyr, a Hefeydd Hir, ac Unic Glew Ysgwydd, a mynegwch wrtho y caiff efe farch iach am bob un a niweidiwyd: ac yn iawn am y dirmyg, efe a gaiff hefyd ffon o arian cyn ffurfed a chyn daled ag ef ei hun; a chlawr o aur cyn lleted a'i wyneb. A mynegwch iddo pwy a wnaeth hyny, ac i'r ysgelerder gael ei wneud yn erbyn fy ewyllys; ac fod yr hwn a'i gwnaeth yn frawd un-fam a mi, ac nid hawdd genyf ei ladd na'i ddyfetha. A deued Matholwch i'm cyfarfod, ac mi a wnaf dangnefedd ag ef yn ol ei gynllun ef ei hun."

Y cenadau a aethant ar ol Matholwch, ac a fynegasant iddo eiriau Bran yn garedig, ac yntau a'u gwrandawodd. "Wŷr," ebai ef, "ni a gymerwn gynghor." Ac efe a aeth i'r cynghor, a phenderfynasant os gwrthod ycynygiad hwn a wnelynt y byddent debycach o gael cywilydd a f'ai fwy na chael iawn a f'ai gymaint; gan hyny derbyniasant y cynyg, a dychwelasant i'r llys mewn heddwch.

Yna trefnwyd y pebyll ar ddull neuadd, ac eisteddasant i fwyta, ac fel yr eisteddent ar ddechreu'r wledd, felly'r eisteddent yn awr. A Matholwch a Bendigaid-Fran a ddechreuasant ymddiddan, a thybiai Bran nad oedd ei