Tudalen:Cymru fu.djvu/324

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhanu y wlad rhyngddynt a wnaeth y pump. Ac o achos y rhaniad hwnw y gelwir eto "Pum' rhan Iwerddon." Ac edrych y wlad a wnaethant ffordd y buasai ymladdau, a chawsant aur ac arian hyd oni ddaethant yn gyfoethog: Dyna fel y terfyna y rhan hon o'r Fabinogi yn nghylch palfawd (blow) a roddwyd i Branwen, yr hwn a fu drydydd anfad balfawd yn yr ynys hon: ac yn nghylch gloddest Bran pan aeth lluoedd deng wlad a thriugain trosodd i'r Iwerddon i ddial palfawd Bronwen; ac yn nghylch y wledd a fu yn Harddlech saith mlynedd: ac am ganiad adar Rhianon; ac ymdeithiad y pen am yr yspaid o bedwar ugain mlynedd.

DIAREBION CYMREIG.

(GAN CYNDDELW.)

"ONI BYDDI GRYF BYDD GYFRWYS."

Mae cyfrwysdra yn cael ei reoli gan onestrwydd yn beth canmoladwy, canys y mae gwybodaeth yn nerth, ac y mae dyn yn cyflawni drwy gyfrwysdra yr hyn nas gall ei wneuthur drwy gryfder. Mae chwedl "Y cawr a'r gwenhudiw” yn egluro y ddiareb hon. Yn yr hen amseroedd, pan oedd cawri a chorachod ar y ddaear, aeth dau o honynt, sef cawr a gwenhudiw i ddwyn moch. Dylid cofio nad oedd neb y pryd hwnw yn meddwl fod lladrata anifeiliaid yn bechod, oblegyd praidd, —anrhaith, ysglyfaeth, oedd yr enw cyffredin arnynt; ac y mae "moch preiddyn" ac "anrhaith o foch" yn eiriau mynych mewn hen awdwyr. Pa fodd bynag aeth y cawr a'r gwenhudiwi barc un o'r Dyledogion i geisio "moch preiddyn." Yr oedd y cawr o faintioli a nerth dirfawr, ac yn ymddiried mwy i'w gryfder nag i'w ddoethineb; a'r gwenhudiw, fel dynion bychain yn gyffredin, yn hunanol a chyfrwys. Wel, aeth y ddau i'r Parc lle'r oedd llawer o foch, a rhai yn fawrion a chigog, wedi pesgi ar fês, a ffrwythau ereill. Ymosododd y cawr ar y rhai mwyaf, a thewaf, a chododd luaws o honynt dros yr amgae i'r tir gwyllt; a daliodd y gwenhudiw ychydig o berchyll heb nemawr ond blew arnynt. Ar ol boddloni eu hunain aethant i edrych am y moch: