Tudalen:Cymru fu.djvu/329

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLYN Y MORWYNION.

———————

GAN GLASYNYS.

———————

(Y Chwedl.)

“RYWBRYD yn yr oesoedd Canol digwyddodd fod prinder mawr o ferched ieuaingc yn Nyffryn Ardudwy, a'r gwŷr ieuaingc gan deimlo eu hunigoldeb a benderfynasant dori dros y bryniau, & myned a wneddynt cyn belled a Dyffryn Clwyd. Wedi aros ennyd yno cafas rhai rianod, a diattreg groesi y mynyddoedd yn ol a wnaethant. Pan genfu gwŷr Clwyd hyn, ffrommasant, ac ar eu hol yn arfog yr aethant, a phan ar bwys Ffestiniog goddiweddasant wŷr Ardudwy a'r Morwynion. Cymmerth ffrwgwd waedlyd le rhwng y ddeu-lu. Gwyliai'r Morwynion y cad ar faes o ben cnicyn o graig gyfagos.

Lladdwyd gwŷr Ardudwy oll. A'r morwynion wrth weled hyn a redasant i'r llyn gerllaw, ac yno y cawsant fedd diarch diamdo, ac fyth wed'yn galwyd ef yn Llyn y Dorwynion. Heb fod yn neppell oddiwrtho mae Beddau Gwyr Ardudwy." Gwel y BRYTHON, Cyf i. tu dal. 91.

NOD. Cymmerais fy hyfdra i dynu can o'r defnydd uchod, gan roddi rhai pethau i mewn a gadael eraill allan. Rhoddais enwau hefyd ar brif gymmeriadon y gan. Gweddus hefyd yn ddiddadl egluro yng nghylch y CHWIFLEIAN. Prin y mae eisiau crybwyll mai'r un gwrthrych sydd gennyf yma o dan sylw, ag sydd mor fynych yn cael ei dwyn o'n blaen yng Ngwaith y CYNFEIRDD; ac yn bendifaddeu, yn y MABINOGION. Dyma ddywed MYRDDIN yng NGYFOESI MYRDDIN A GWENDDYDD EI CHWAER,' "A chwedlau Chwibleian." Gwel MYF. ARCH. Cyf. i. tu dal. 143. Neu fel hyn yn ol Llyfr arall "A chwedle doet Cnibleian." Yr un ydyw hon y mae'n debyg a VIVIANNE; sef y globen ystumddrwg waedwyllt ag sydd gan Mr. Alfred Tennyson yn ei IDILIS OF THE KING. Gwelais yn y GREAL hefyd ei hanes hi a Myrddin yn croesi o Ynys Enlli mewn "tŷ gwydr", ac yn glannio yn Llydaw; ond nid ydyw 'r Llyfr hwnw wrth law gennyf heddyw,gan hynny, nid oes ond cyflwyno fy nghân isylw'r neb a ewyllysio ei darllen; a lled-awgrymu mai SIBYLL yr hynafiaid ydyw fy CHWIFLEIAN I.

"Cared doeth yr Encilion."

Nadolig, 1859

I.

Mor gu yw gwedd Traddodiad! merch hynaf amser yw;
Mae'n cadw Brutiau 'r oesoedd, cofiannau dynolryw,
Mae 'n wraig i Cof wybodus; a'u hunig ferch yw Coel:—
Ac maent yn gwastad wledda ar seigiau ffeithiau moel.
Mae ganddynt Gastell costus, yn llawn o greiriau hud,
Ar ar ei dyrrau pigfain mae 'n gwarchod Engyl mud:
Ac ynddo ceir gwyryfon yn canu nos a dydd
A phob rhyw lần ysprydion yn yfed awen rydd!
Traddodiad! mae dy adlais yn swyno meddwl dyn,
Goleua ddunos gofid, diddana gŵyn a gwŷn.
Dwyfoldeb sydd yn dalaith addurnol ael dy ben,
Dy eiriau sydd yn feddal fwyn, a'th wisg yn llaes a gwen.
Mor anwyl a morwynig! mor lân a'r Awen wir,
Mor ddwyfol ag angyles bur, mor gynnes ag yw'r GWIR!