Tudalen:Cymru fu.djvu/348

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig o fynydau yr oedd y rhai oeddynt hefo'r coelcerth; yn bob gradd o honynt, wedi do'd ilawr. Yr oedd yno rai yn edrych arnom ni fel pe buasai gyrn ar ein pen. Ni wyddent pa lwyth, iaith, neu genedl oeddym. Ond dyma'r Crwc yn llawn dwfr; a Gwen, canys dyna oedd enw merch y tŷ, yn dyfod a llonaid ei ffedog o afalau croendeg, ac yn bwrw rhyw ddwsin o honynt iddo, a'r hogiau yn dechreu arni nesu am y digrifwch. Yr oedd yno un llefnyn digrifach na'r lleill, ei enw oedd Ifan Dafydd. Efe oedd y cyntaf i benlinio with y Crwc; cododd Ifan ddau afal yn lled ddiboen, a rhoes un i hen wraig Blaen y Glyn, a'r llall i ninau. Yr oeddym ni yn llu o gylch y tân, yn chwerthin ac yn siarad; ond dyma linyn yn cael ei grogi wrth fach dan y llofft; a phren yn cael ei rwymo wrtho; yna rhoed afal ar un pen iddo, ac yn y pen arall yr oedd hollt, ac yn yr hollt y rho'id darn oganwyll frwynen, ac nid ychydig y llonder a geid pan fyddis yn ceisio sugno'r afal i'r genau, ac os methid, ond odid fawr na thrôai y ganwyll, ac y llosgai fochgern yr ymgeisydd. (Onid oes cryn debygrwydd yn hyn i'r wedd y digwydd i ymgeiswyr aflwyddianus ein Heisteddfodau, nid yn unig collant y wobr, ond llosgir eu bochgernau hefyd yn fynych.) Erbyn hyn yr oedd y ddiod Griafol yn cael ei thywallt, a digonedd o Feth wedi do'd ary bwrdd. Ar ford yn un gongl,—(nid oedd llian arni, oblegid yr oedd cyn wyned ag un llian a fedd Cymru ;) yr oedd bara ceirch wedi eu troi bron yn grwn, a lwmp o fenyn a dagrau ar ei olwg-melyn; yn ei ymyl yr oedd clobyn o gosyn iraidd, a phawb yn cael helpu ei hun, heb gymhell yn ychwaneg na "dyma 'r bwyd;" ond nid bwyd oedd y pethau ar Nôs Galangauaf. Yr oedd yno dori cnau; a gwaith difyr yw hyny os y ceid hwy yn llawnion. Ond codi yr afalau o'r dwfr oedd y prif beth yn ngolwg y bechgyn. Pan y codai Rhys Puw un gwelid ef yn ei wthio yn hanner dirgel i gil llaw Elin y Bryn: a phan y byddai Cydwelyn Lewis yn methu, a rhoi o'r plant direidus yn taro eì ben tan ddw'r, gellid darllen effaith gofid ar ruddiau Lwlan Sion. Ni wyddent hwy etto ddim am garu; ond yr oedd rywbeth yno er hyny; a'r "rhywbeth" hwnw yn gyffredin a lefarai a "Gwnaf" wrth allor y Llan, yn y pen draw.

Yn un cwr o'r tŷ yr oedd f'ewyrth Reinallt Wmffra: hen wryn bach ystwyth ei chwedl; ac mewn gwirionedd yr oedd yn anhawdd gwybod pa'r un oedd y mwyaf diddan ai gwrando arno ef a Morgan Llwyd yn dweyd eu cofion; ai ynte edrych, a rhoi clust i ddywediadau y rhai