Tudalen:Cymru fu.djvu/349

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ifangc. Yr oedd yno beth arall hefyd. Yr oedd yno glic parhaus yr hosanau a'r gwëill; o herwydd nid oedd dwylaw 'r merched un mynyd yn llonydd. "Pobl ddiwyd yw pobl y mynyddoedd," meddem wrthym ein hunain. "Dyma lawer o'r hen Ewyrthod, a'r oll o'r hen fodraboedd "yn diwyd wau" hyd yn nod pan yn ymddifyru."Ond Yn mha le y mae Rhydderch Crythor? Dyma fo! A fyni di, ddarllenydd, glywed neu weled pa fath un oedd ? Wel! haf ati ynte.

Y mae'n debyg na thynwyd llun creadur mwy afrosgo erioed, ond na falier hyny, gwnawn ein goreu. Ac os methwn; methwn wrth geisio.. Yroedd, ymae'n ddiddadl, wedi gweled o leiaf dri—ugain gauaf; felly yr oedd yr ychydig wallt a feddai, wedi froi fel llin wedi ei gânu. Clamp o ddyn tua dwylath o daldra: pur eiddil, a thipyn o wâr ganddo. Gwyneb hir pantiog, a chlobyn o drwyn, a allasai, pe cymerasid gofal o'r defnydd, wneyd y tro, o leiaf, rhwng tri: hyny ydyw, pe buasid yn rhyw haner cynil hefo'r cyfryw ddefnyddiau. Yr oedd hwnw hefyd yn troi yn fwâiog, a chrwbi mawr yn ar ei ganol. Ceg ledgam, ac un wefl yn croes—guddio y llall;—yr isaf yn darn guddio'r uchaf. Gên hir, a thipyn o dro ynddi. Ei ysgwyddau yn cantio at eu gilydd: a dau lygad: un yn edrych y ffordd yma, a'r llall yn serenu'r ffordd draw. Ryw ysgrifinllyn fel yna oedd Rhydderch; ond yr oedd, er hyny, yn bur siongc ar ei droed, ac yn ffraeth eithaf ar ei dafod. Wedi cael digon ar godi'r afalau, a llosgi'r bochgernau; a'r cnau wedi lleihau cryn lawer yn y fwydor,—oblegyd yn y fwydor y rhoddesid y cnau; dyna Gwen Llwyd, merch y tŷ at ei mam, ac yn erfyn am dro newydd ar y droell. Dylesid sôn cyn hyn, efallai, am un bachgen llwyd—denau a eisteddai yn nghil y pentan. Nid oedd ef yn cymeryd dim sylw yn y byd o ddim ag oedd yn cymeryd lle. Gwrandawai yn astudar bawb, ac ambell dro, pan welid ei lygaid, gellid canfod ynddynt ddwysder a threiddgarwch wedi cyd—gymysgu. Yr oeddeigorgi blewog ambell dro yn llyfu ei law. Ond distaw fud oedd efe, yn gweu ambell bwyth ar hosan Reinallt Wmffra. Amlwg oedd fod rhywbeth ar ei feddwl. Yr oedd Gwen hithau yn edrych weithiau, a'i llygaid dros ei hysgwydd, tua'r fan yr eisteddai, ond nid oedd dim byd arall yn cymeryd lle rhyngddynt. Priciodd rhywbeth ni er hyny. Peth rhyfedd yw y rhywbeth yma, ni waeth hynnag ychwaneg. Ond dyma'r ganwyll frwyn i lawr, a thacw'r crwc yn cael symud ei borfa. A phawb ar ôl cael eu rhan o'r ddiod