Tudalen:Cymru fu.djvu/351

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwyn o flaen ei well am ei ysgandarleisio. " Ond," ebai'r Llange llonydd, "'na hitiwch, f'ewyrth Reinallt, mi dalaffiiiddofoc." Tawelwyd yn lled lew; er y byddai pyffiiau o chwerthin yn d'od yrwan ac yn y man, nes y byddai pawb yn ddiwahân yn ymollwng, a f'ewyrth Reinallt yn dechreu ail fygwth yn waeth nag erioed. Er mwyn cael llonyddwch dyma'r Llangc llonydd yn dweyd y canai ef gerdd newydd. Ac ar ol cael cip ar lygaid gleision Gwen, dechreuodd ar ei waith :

Nos G'langauaf ydyw heno
Y mae tân yn llygaid Gweno;
Tân a welsom yn y Goelcerth,
Oedd yn adrodd tesni prydferth.

Nos G'langauaf, "cnau" i'w bwyta,
Er fod allan "Hwch ddu Gwta :"
METH i'w yfed a llawenydd,
A Morwynion Glân Meirionydd.

"Dyna fesglyn ar ol," ebe Reinallt, "thâl oddim'! thâlo dlim baw!" "Wel! aroswch iddo orphen, yn enw dyn," meddai Morgan Llwyd, "Dos yn dy flaen Huw Bifan," canys dyna oedd enw y Llangc llonydd,

Neithiwr bum yn Neuadd Nannau,
Yno'n tiwinio hefo'r tanau;
Wrth dd'od adref dros y Roballt
Gwelais Gi fy Ewyrth Reinallt.

"Ar fy nghydwybod i! fyna' i ddim fy ysgandarleisio fel yma; lle y mae fy ffon i, mi âf fi adref, ni waeth genyf beth fo ungwr." "Aros, aros," ebai Morgan Llwyd, "hwde! gorniad o Feth cyn cychwyn." Ac ar ol cael hwnw i'w law, dyna bob peth heibio, a Thwm Pen Camp ac yntau yn ffrindiau rhag blaen. Yn awr daeth amser rhoi cnau y merched yn y tân. Yr oedd pob geneth i gael dewis ei chneuen, ac i'w rhoddi yn y tân a'i llaw ei hun. Yr oedd yn rhaid i Gwen, merch y tŷ, ddewis y gyntaf, a'i rhoi yn y marwydos. Os y rhoddai y gneuen glec, dyna arwydd dda; ond os rhyw fud—losgi a wnai, dyna argoel ddrwg. Taflodd Gwen un i'r tân, ac yr oedd yn crynu wrth wneyd; ond dyma glec dros y tŷ, aphawb yn chwerthin am yr uchaf. Bychan a wyddent hwy mai'r un fynyd, ïe, yr un amrantiad yr oedd clec arall yn cymeryd lle: yr oedd bwa serch yn rhoi clec yn mynwes un na's gwelodd hi mono erioedo'r blaen, hyd y noson hono, a hyny ar yr un amrantiad. Y mae rhywbeth hynod yn y clecian yma. Gan igneuen wisgi Gwen wneyd yr hyna ddylasai, ac i ddarn o honi neidio o'r tân i wyneb Rhywun,