Tudalen:Cymru fu.djvu/386

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynauafu mawn i'w gwerthu. Efe oedd Rothchild mawr y byd yn y farchnadyddiaeth fawnog. Yn hâf gwresog y flwyddyn 1826 cafodd golledion dirfawr drwy i ran fawr o'r mynydd gymeryd tân, yr hwn a losgodd ugeiniau o Iwythi o'i fawn. Mawr oedd gofid a phrofedigaeth yr hen ŵr ar yr achlysur hwn. Yr oedd i'w weled yn fore iawn bob dydd yn myned i fyny i'r mynydd, ac ofnid y gwnaethai losg-aberth o hono ei hun yn nghanol ei fawn. Llawer brwydr galed a fu rhyngddo â'r elfen ddinystriol. Llosgodd ei haiarn gwthio, ei glustog, a'i raw fawn, yn golsion; a haner rostiodd yr hen ŵr ei hun yn y gwres lawer gwaith. Yn y gauaf, byddai hyd y mynydd yn tynu pabwyr, a'r nos ar ol dyfod adref yn eu pilio, ac elai Begws ar hyd y wlad i'w gwerthu hwy a'r ysgubau a wneid ganddo o'r pilion. Fel hyn y bu fyw hyd nes y daeth pilionen ei fywyd i'r pen.

Adwaenem gymydog a chyfoed i'r hen ŵr uchol, yr hwn yntau hefyd oedd yn nodedig ar gyfer ei weithgarwch, ei ddiwydrwydd, a'i onestrwydd; hen Gymro o'r hen ffasiwn oedd efe: pur afrywiog ei dymher, druan; a phan y cyffroid hono, yr hyn a ddigwyddai yn fynych, celai darn fawr o wlad wybod hyny, canys treiddiai ei floeddiadau uchel ac egrddigofus fel taranau trwy y fro. Yr oedd ganddo lais fel udgorn cryf, a gollyngai ef allan yn ei lawn nerth, pa bryd bynag y cynhyrfid ei natur. Yr oedd ar ei anifeiliaid ei ofn fel y gŵr drwg: rhedai y moch i ymguddio am eu bywyd pan ddelai i'w golwg. Llechai'r ieir a'r gwyddau mewn distawrwydd, pan glywent ei lais. Ciliai'r gwartheg rhagddo mewn dychryn pan y'i gwelent; canys yr oedd y creaduriaid oll wedi profi angerdd ei soriant lawer tro, pan wedi troseddu trwy dori i fanau annghyfreithlawn. Efe, bob amser, fyddai y cyntaf i fynu yn y fro. Byddai Dafydd wedi gweithio darn da o ddiwrnod, cyn i neb arall yn mron ddechreu ar ei orchwyl: a daliai wrthi hyd gan hwyred a'r hwyraf.

Yr oedd yr hen greadur hynod hwn yn nodedig am ei gywirdeb a'i onestrwydd hefyd, a mawr berchid ef ar y cyfrif hwnw. Yr oedd ganddo geffyl unwaith yn ei feddiant ag oedd yn peri mawr flinder iddo oblegyd ei fariaeth; torai dros bob clawdd, a gwnai ddifrod mawr ar ydau yr hen ŵr, ac ni allai ei feistroli â llyffetheiriau nac mewn un modd arall. Penderfynodd Dafydd ei werthu, os gallai; a bore ddiwrnod ffair, yn y pentref cyfagos, clymodd y llyffethair am wddf Sharper, ac