Tudalen:Cymru fu.djvu/391

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wnaethum iddo; a chyn ddaed oedd ei foes nid cynt y cyferchais I iddo ef nag y cyfarchodd yntau well i minau. Ac efe a ddaeth gyda rai tua'r Gaer; ac nid oedd yno gyfanedd namyn ag oedd yn y neuadd. Ac yno yr oedd pedair morwyn ar hugain yn gwnio pali wrth ffenestr; a hyn a ddywedaf i ti, Cai, fod yn decach yr hacraf o honynt na'r decaf a welaist ti erioed yn Ynys Prydain. Yr anharddaf o honynt yn harddach oedd na Gwenhwyfar,' gwraig Arthur, pan fu harddaf erioed ddydd Nadolig neu ddydd y Pasg wrth yr offeren. Wrth fy nyfodiad cyfodasant, a chwech o honynt a gymerasant fy march, ac a ddiosgasant fy arwisg innau. A chwech ereill a gymerasant fy arfau ac a'u golchasant mewn llestr onid oeddynt cyn wyned a'r dim gwynaf. A'r trydedd chwech a ddodasant lieiniau ar y byrddau ac a arlwyasant fwyd. A'r pedwerydd chwech a ddiosgasant fy lluddedig wisg, a dodì gwisg arall am danaf, nid amgen crys o lian main, a phais a swrcot (surcoat} a mantell o bali melyn. A gosodasant obenyddiau o danaf ac o'm cylch wedi eu gorchuddio â. llian coch. Yna mi a eisteddais. A'r chwech hyny a gymerasant fy ngheffyl i'w ystablu a wnaethant hyny gystal a phe buasent yr ysweiniaid goreu y n Ynys Pry dain . Yna hwy a ddygasant im' i ymolchi gawgiau arian a dwfr ynddynt, a thywelau o lian gwyrdd a gwyn, ac mi a ymolchais. A daeth y gŵr a welswn gynneu ac a eisteddodd wrth y bwrdd, a minau yn nesaf iddo; a'r gwragedd oll is fy llaw oddieithr y rhai oeddynt yn gwasanaethu. Arian oedd y bwrdd, a llian oedd lleni y bwrdd. Ac nid oedd un llestr yn gwasanaethu ar y bwrdd namyn aur, neu arian, neu fueli (buffalo horn). A daeth bwyd ini; a dywedaf i ti, Cai, ni welais erioed fwyd a diod nad oedd. ef yno; eithr fod y bwyd a'r ddiod a welais yno yn rhagori ar ddim a welais erioed.

Bwyta a wnaethom hyd at haner y bwyd: ac ni ddywedodd na'r gŵr nac un o'r morwynion un gair wrthyf hyd hyny. A phan debygodd y gwr fod yn well genyf ymddiddan na bwyta, efe a ofynodd i mi pwy oeddwn; minau a ddywedais fod yn dda genyf gael un a ymddiddanai â mi, a deall nad oedd llefaru yn drosedd mawr yn y llys hwnw. "Ha! unben," ebai yntau, "nia ymddiddanasem â thi oni buasai ofn llstair ar dy fwyd, ond yn awr ni a ymddiddanwn â thi. "Yna mi a fynegais i'r gŵr pwy oeddwn a pheth oedd amcan fy ngherdded, a dywedyd fy mod yn ceisio a allai fy ngorchfygu, neu ynte a allwn i orchfygu pawb. Y dyn a edrychodd amaf tan wenu ac a ddywedodd,