Tudalen:Cymru fu.djvu/392

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pe na thebyg'swn y deuai gormod gofid it', mi a fynegwn iti yr hyn yr ydwyt yn ei geisio." Hyn a barodd imi deimlo'n bryderus a thrist, a'r gŵr a adnabu hyny arnaf, "Os gwell genyt ti imi fynegi'th afles na'th les, mi a'i mynegaf it. Cwsg yma heno," ebai ef, " a chyfod yn fore i fynu, a chymer y ffordd y daethost ar hyd y dyffryn, oni ddelych i'r coed y daethost trwyddo. Ac ychydig yn y coed, fe gyferfydd gwahanffordd â thi, ar y tu dehau iti; cerdda hyd hono hyd oni ddelych i lanerch fawr o faes, a thŵr ar ganol y maes. A thi a weli ŵr du mawr ar ben y tŵr nad ydyw ddim llai na dau o wyr y byd hwn. Untroed y sydd iddo, ac un llygad, a hwnw yn nghanol ei dalcen. Y mae ffon o haiarn ganddo, a diau nad oes deu—wr yn y byd na chaffent eu baich yn y ffon hyny. Ac nid gwr hawddgar ydyw, eithr tra anhawddgar; ac wtwart (ceidwad) yw ar y coed hwnw. A thi a weli fil o anifeiljaid gwylltion yn pori o'i gylch. Gofyn dithau y ffordd iddo i fyned o'r llanerch, ac efe a rydd wrthgloch (ateb) wrthyt, ac a ddengys ffordd iti fel y ceffi yr hyn a geisi."

Hir oedd genyf y nos hono. A bore dranoeth, cyfodi a wnaethum a gwisgaw am danaf, ac esgyn ar fy march, a cherdded rhagof ar hyd y dyffryn i'r coed; ac mi a ddaethum i'r wahanffordd y dywedodd y dyn wrthyf am dani, a chyrhaeddais y llanerch. Ac yr oedd yn dair gwaith rhyfeddach genyf am yr anifeiliaid gwylltion oedd yno nag y dywedodd y gwr wrthyf y buasai. A'r gwr du oedd yno yn eistedd yn mhen yr orsedd. Dywedodd y gwr wrthyf ei fod yn fawr, mwy o lawer oedd efe na hyny. Y ffon haiarn y dywedasai y gwr wrthyf ei bod yn llwyth deu-ŵr, hysbys oedd genyf i, Cai, fod llwyth pedwar milwr ynddi. A hono oedd yn llaw y gŵr du. Ac ni ddywedai efe air wrthyf namyn a ofynwn iddo. Ac mi a ofynais iddo pa feddiant oedd ganddo ar yr anifeiliaid hyny. "Mi a ddangosaf i ti, ddyn bychan,' ebai ef; a chymeryd ei ffon yn ei law a tharaw carw â hi ddyrnod mawr, oni roddodd efe frefiad ddolefus, ac wrth ei frefiad ef, y daeth yno o anifeiliaid gyn amled â'r ser yn yr awyr. Yr oedd yn anhawdd i mi gael lle i sefyll yn y llanerch gyda hwynt—yn seirph a gwiberod ac amryfal anifeiliaid. Ac efe a edrychodd arnynt hwy, ac archodd iddynt fyned a phori; a gostwng eu penau a wnaethant hwythau iddo, fel y gwna gwas idd eu arglwydd.

Yna y dywed y gŵr du wrthyf, "A weli di, ddyn bychan, y meddiant sydd genyf fi ar yr anifeiliaid hyn." A gofyn fy ffordd iddo a wnaethum; garw a chroes a fu