Tudalen:Cymru fu.djvu/393

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yntau, a gofynodd imi pa le y mynwn fyned. Minau ddywedais pâ ryw ŵr oeddwn, a pha beth a geisiwn. A mynegi a wnaeth yntau i mi: "Cymer," ebai ef, "y fordd tua phen uwchaf y coed, a cherdda yn erbyn yr allt uchod oni ddelych i'w phen; ac oddiyno ti a weli ystrad megys dyffryn mawr, ac yn nghanol yr ystrad ti a weli bren mawr, a glasach yw ei frig na'r ffynidwydd glasaf. O dan y pren hwnw y mae ffynon, ac yn ymyl y ffynon y mae llech o farmor, ac ar y llech y mae cawg arian wrth gadwyn arian, fel nad ellir eu gwahanu. Cymer dithau y cawg, a bwrw gawgiad o'r dwfr am ben y llech; yna ti a glywi dwfr mawr, nes y tebygi fod y nef a'r ddaear yn er grynu trwy y twrf. Ar ol y twrf y daw cawod mor ffyrnig fel y bydd yn anhawdd i ti ei goddef a byw. Cenllysg fydd y gawod, ac wedi yr el hon heibio y daw hindda, eithr ni adawodd ei chynddaredd yr un ddalen ar y pren heb eu dwyn. Yna y daw cawod o adar, a disgyn ar y pren a wnant: ac ni chlywaist ti erioed yn dy wlad dy hun gerdd cystal ag a ganant. A phan fo mwyaf dy fwyniant yn ngherdd yr adar, ti a glywi duchan a chwynfan yn dyfod ar hyd y dyffryn tuag atat. Ar hyny ti a weli farchog ar farch du pur, a gwisg a bali purddu am dano, ac ystondard (pennon) o lian purddu ar ei waywffon; ac efe a gyrch tu ag atat mor gynted ag y gallo. O ffoi di rhagddo ete a'th orddiwes; ac os arhosi di yno, a thi yn farchog, efe a'th edy yn bedystyr (ar draed); ac oni chei di ofid ganddo, ni raid iti ofyn gofid tra fyddi byw."

Ac mi a gymerais y ffordd hyd oni ddaethum i ben yr allt, ac oddiyno gwelwn fel y mynegasai y gwr du wrthyf, ac i ymyl y pren y daethum, a ffynon a welwn dan y pren, a'r lech farmor yn ei hymyl, a'r cawg arian wrth y gadwyn. Minau a gymerais y cawg, ac a fwriais gawgaid o'r dwfr am ben y llech, ac ar hyny wele'r twrf yn dyfod yn llawer mwy ffyrnig nag dywedasai y gŵr du wrthyf: ac ar ol y twrf gawod; a diau oedd genyf fi, Cai, ni ddiangasai na dyn na llwdn yn fyw ar a oddiweddai y gawod allan; canys ni safai yr un genllysgen o honi yn y croen nac yn y cig, hyd oni chyrhaeddai yr asgwrn. Ac mi a droais bedrain (flank) fy march tuag ati; a dodi swch fy nharian ar ben fy march a'i fwng, a dodi y rhan arall o honi uwch fy mhen fy hun. Ac felly y goroesais inau y gawod. A phan edrychais ar y pren, nid oedd un ddalen arno. daeth hindda: ac ar hyny, wele yr adar yn disgyn ar y pren ac yn canu; a hysbys yw genyf fi, Cai, na chlywais I gerdd cystal a hono na chynt na chwedi. A phan oedd Yna y