Tudalen:Cymru fu.djvu/398

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dros ei dwy ysgwydd, ac wedi ei liwio â gwaed, a gwisg o bali melyn am dani wedi ei rhwygo, a dwy esgid o gordwal brith am ei thraed. A rhyfedd oedd na buasai ysig benau ei bysedd gan fel y maeddai ei dwylaw yn nghyd. A hysbys oedd gan Owain na welsai ef erioed wraig gan deced ped fuasai hi ar ei ffurf iawn. Ac uwch oedd ei diaspad nac oedd o ddyn na chorn yn y llu. A phan weles efe y wraig, enynu o'i chariad hi a wnaeth efe.

Yna y gofynodd Owain i'r forwyn pwy oedd y wraig. "Y nefoedd wyr," ebai'r forwyn, "gwraig y gellir dywedyd am dani ei bod y decaf o'r gwragedd, a'r ddiniweiraf, a'r haelaf, a'r ddoethaf, a'r foneddigeiddiaf, fy arglwyddes I yw hon acw, a IARLLES Y FFYNON y gelwir hi; gwraig yw i'r gwr a leddaist ti ddoe."

"Y nef wyr," ebai Owain, "mai y wraig a garaf fi fwyaf o bawb ydyw."

"Y nef a wyr," ebai'r forwyn, "hithau a geiff dy garu dithau nid ychydig."

Ar hyny, y forwyn a gyfododd, a chyneu tân glo, a llanw crochan â dwfr, a'i ddodi i dwymno, a chymeryd twel o lian gwyn, a'i ddodi am fwnwgl Owain, a chymeryd gorflwch o asgwrn elephant a chawg arian, a'i lanw o'r dwfr twymn, a golchi pen Owain. Yna hi a agorodd brenfol (wooden casket), ac a gymerth ellyn a'i charno asgwrn elephant, a dau ganawl (rivets) o aur ar yr ellyn; a hi a eilliodd ei farf ef, a sychu ei ben a'i fwnwgl â'r twel. Yna hi a gyfododd oddi ger bron Owain, a dyfod a'i giniaw iddo, a diau oedd gan Owain na chafodd efe erioed giniaw cystal a hwnw, na'i wasanaethu cystal. Ac wedi darfod o hono ei giniaw, y forwyn a gyweiriodd ei wely, "Dos yma", ebai hi, "i gysgu, a minau a af i garu trosot." Ac Owain a aeth i gysgu; a chau drws y llofft a wnaeth y forwyn, a myned tua'r Gaer. A phan y daeth yno, nid oedd yno namyn tristyd a gofal; a'r Iarlles ei hun yn yr ystafell, heb oddef oherwydd tristwch gweled dyn. A Luned a ddaeth ati gan gyfarch gwell iddi. Eithr yr Iarlles nid atebodd iddi. A'r forwyn a blygodd ger ei bron ac a ddywedodd, "Pabam nad atebych i mi heddyw?" "Luned," ebai'r Iarlles, "paham nad ymwelsit â mi yn fy ngofid? a minau a'th wnaethum di yn gyfoethog; yr oedd yn gam arnat na buasit yn dyfod; hyny fu yn gam ynot." Diau," ebe Luned, "ni thebygais I na buasai well dy synwyr nag y mae: ai da i ti alaru am y gŵr da hwnw, neu unpeth arall, nas gellych byth ei gael" "Rhyngof fi a Duw," ebai'r Iarlles, "nid oes dyn yn y byd cyffelyb iddo." "Gallet," ebai Luned, "gael gwr hagr â f'ai cystal